Trosgynoliaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= }} Mudiad athronyddol a llenyddol a ffynnodd yn Lloegr Newydd, Unol Daleithiau America, rhwng tua 18...'
 
B s
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 4:
Er nad oedd erioed yn athroniaeth systematig, roedd ganddi rai daliadau sylfaenol. Roedd y rhain yn cynnwys y gred bod Duw yn fewnfodol mewn dynolryw a natur ac mai greddf unigol yw'r ffynhonnell wybodaeth uchaf. Arweiniodd hyn at bwyslais optimistaidd ar unigolyddiaeth, hunanddibyniaeth a gwrthod awdurdod traddodiadol.
 
Mynegwyd syniadau'r mudiad yn huawdl gan [[Ralph Waldo Emerson]] mewn traethodau fel "Nature" (1836) "Self-Reliance" (1841) a "The Over-Soul" (1841) a chan [[Henry David Thoreau]] yn ei lyfr ''[[WalsdenWalden]]'' (1854).
 
Dechreuodd y mudiad gyda chyfarfodydd achlysurol yn [[Boston]], [[Massachusetts]] a [[Concord, Massachusetts]] yn y 1830au i drafod athroniaeth, llenyddiaeth a chrefydd. Yn ogystal ag Emerson a Thoreau, roedd aelodau eraill y grŵp hwn yn cynnwys [[Amos Bronson Alcott]] (tad yr awdur [[Louisa May Alcott]]), [[Margaret Fuller]], [[Frederic Henry Hedge]], [[Theodore Parker]] a [[George Ripley]].