Rhyfel Olyniaeth Awstria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B s
Llinell 2:
Cyfres o [[rhyfel|ryfeloedd]] rhwng gwledydd [[Ewrop]] yn y cyfnod 1740–8 a sbardunwyd gan farwolaeth [[Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig]] a phennaeth brenhinllin y [[Hapsbwrgiaid]], oedd '''Rhyfel Olyniaeth Awstria''' ({{iaith-de|Österreichischer Erbfolgekrieg}}).
 
Bu farw'r Ymerawdwr Siarl VI ar 20 Hydref 1740, a chafodd ei olynu yn bennaeth ar [[y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd]], hynny yw [[Awstria]] a'i thiriogaethau, gan ei ferch [[Maria Theresa]]. Gwrthwynebwyd ei hawl i'r goron gan sawl ymhonnwr, yn bennaf [[Philip V, brenin Sbaen]], [[Awgwstws III, brenin Gwlad Pwyl]], a [[Siarl VII, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Charles Albert, Etholydd Bafaria]]. Cefnogwyd hawl Charles Albert i goron [[yr Ymerodraeth Lân Rufeinig]] gan [[Teyrnas Ffrainc|Deyrnas Ffrainc]], mewn ymgais i lyffetheirio grym y HabsbwrgiaidHapsbwrgiaid yn Ewrop.
 
Cychwynnodd yr ymladd yn sgil goresgyniad [[Silesia]], un o daleithiau'r Hapsbwrgiaid, gan [[Teyrnas Prwsia|Deyrnas Prwsia]] ar 16 Rhagfyr 1740. Bu byddin [[Ffredrig II, brenin Prwsia]], yn drech na lluoedd Awstria ym Mrwydr Mollwitz ar 10 Ebrill 1741, ac yn ôl Cytundeb Berlin (Gorffennaf 1742) ildiodd Maria Theresa diroedd Silesia i Brwsia gan ddod â diwedd i Ryfel Cyntaf Silesia. Wedi i'r Prwsiaid heidio dros Silesia, ymochrodd Ffrainc, [[Etholyddiaeth Bafaria]], a [[Teyrnas Sbaen|Theyrnas Sbaen]] yn erbyn Awstria, ac yn ddiweddarach ymunodd Prwsia ac [[Etholyddiaeth Sachsen]] â'r gynghrair honno. Cipiwyd [[Prâg]] gan Charles Albert, gyda chymorth y Ffrancod, yn 1741.