Rhyfel Olyniaeth Awstria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B s
B acen
Llinell 6:
Cychwynnodd yr ymladd yn sgil goresgyniad [[Silesia]], un o daleithiau'r Hapsbwrgiaid, gan [[Teyrnas Prwsia|Deyrnas Prwsia]] ar 16 Rhagfyr 1740. Bu byddin [[Ffredrig II, brenin Prwsia]], yn drech na lluoedd Awstria ym Mrwydr Mollwitz ar 10 Ebrill 1741, ac yn ôl Cytundeb Berlin (Gorffennaf 1742) ildiodd Maria Theresa diroedd Silesia i Brwsia gan ddod â diwedd i Ryfel Cyntaf Silesia. Wedi i'r Prwsiaid heidio dros Silesia, ymochrodd Ffrainc, [[Etholyddiaeth Bafaria]], a [[Teyrnas Sbaen|Theyrnas Sbaen]] yn erbyn Awstria, ac yn ddiweddarach ymunodd Prwsia ac [[Etholyddiaeth Sachsen]] â'r gynghrair honno. Cipiwyd [[Prâg]] gan Charles Albert, gyda chymorth y Ffrancod, yn 1741.
 
Methodd goresgyniad Awstria a [[Bohemia]] gan luoedd Ffrainc a Bafaria, a lansiwyd gwrthgyrch gan Maria Theresa, gyda chymorth [[Teyrnas Prydain Fawr|Prydain Fawr]] ac [[Teyrnas Hwngari|Hwngari]], yn 1742 i orchfygu Bafaria. Prif nod y Prydeinwyr wrth ymuno â'r ffrae oedd i atal y Ffrancod rhag ennill tra-arglwyddiaeth dros y cyfandir, a fyddai ar draul diddordebau masnachol a threfedigaethol [[yr Ymerodraeth Brydeinig]]. Ymunodd [[Etholyddiaeth Hannover]] a'r [[Hesiaid]] hefyd ar ochr Awstria, a buont, dan arweiniad [[Siôr II, brenin Prydain Fawr]], yn drech na'r Ffrancod ym Mrwydr Dettingen ar 27 Mehefin 1743. Ymgynghreiriodd [[Dugiaeth Safwy]] aâ'r Awstriaid ym Medi 1743, ac enciliodd lluoedd y Ffrancod yn ôl i ffiniau Teyrnas Ffrainc. Cychwynnodd Ail Ryfel Silesia yn 1744, a methiant fu ymdrechion Awstria i adennill Silesia.
 
Bu farw Charles Albert yn Ionawr 1745, a gwrthododd ei fab, Maximilian III Joseph, hawlio coron Awstria. Llwyddiant a fu ymgyrch y Ffrancod yn nhiriogaethau Awstriaidd yr Iseldiroedd yn 1745–46. Ymladdwyd rhyfeloedd hefyd rhwng y Ffrancod a'r Prydeinwyr yng Ngogledd America (Rhyfel y Brenin Siôr, 1744–48) a'r India (yr Ail Ryfel Carnatig, 1746–48). Bu hynt y rhyfel yn amhendant nes i'r pwerau wynebu trafferthion ariannol a galw am drafodaethau heddwch. Daeth y gwrthdaro dros olyniaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd i ben yn sgil Cytundeb Aix-la-Chapelle ar 18 Hydref 1748, er i Silesia barhau'n rhan o Brwsia.