Samuel Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Golygydd newyddiaduron ac awdur o dras Gymreig fu '''Samuel Williams'''<ref>{{Cite book|title=Mark Twain's Letters, Volume 2: 1867-1868|url=https://books....'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Golygydd newyddiaduron ac awdur o dras Gymreig fu '''Samuel Williams'''<ref>{{Cite book|title=Mark Twain's Letters, Volume 2: 1867-1868|url=https://books.google.es/books?id=EWvU21-vV8EC&pg=PA209&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false|publisher=University of California Press|date=1990-02-02|isbn=978-0-520-90607-5|language=en|first=Mark|last=Twain}}</ref> (1824? – Mehefin 30, 1881). Fe’I ganwyd yn Utica, New York. Gweithiodd ar yr ''Albany Evening Journal'' a’r ''San Francisco Evening Bulletin''. Ar ôl ei farw priododd ei wraig weddw (Elizabeth "Lizzie" Balmer Williams 1844-1926) â William Barnes Sr.<ref>{{Citation|title=William Barnes Sr.|date=2020-03-27|url=https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=William_Barnes_Sr.&oldid=947562220|work=Wikipedia|language=en|access-date=2020-03-27}}</ref>
 
Bu sôn amdano yn 1882 yn y llyfr “Dwywaith O Amgylch Y Byd” gan W. O. Thomas<ref>{{Cite book|title=Dwywaith o amgylch y byd;|url=http://archive.org/details/dwywaithoamgylch00thom/page/468/mode/2up|publisher=Utica, N.Y., T. J. Griffiths|date=1882|others=The Library of Congress|first=W. O. (William Owen)|last=Thomas}}</ref>:  "Gair am y Cymry: Pan oeddwn yn ymadael o San Francisco, yr oedd pedwar gwesty Cymreig, neu Hotels, fel y gelwid hwy, ar heol Broadway; ond erbyn hyn enw Italaidd sydd ar yr hen Cambrian House, a deallais nad oedd un Cymro yn cadw ty cyhoeddus ar yr holl heol. Ac ni welais neb a fedrai barablu yr iaith Gymraeg, hyd nes y cyrhaeddais swyddfa Proff. Price, yr hwn oedd yn brysurach, ac yn gwneyd mwy o fasnach nag erioed. Yno cyfarfyddais ag Obedog o Fon, J. R. Jones, ac amryw o Gymry caredig eraill mewn llawn gwaith. Ar ol hyn, ni chefais nemawr o drafferth i ddyfod o hyd i gynifer o'm hen gyfeillion Cymreig ag oeddynt yn aros yn y ddinas. Yn mhlith y Cymry mwyaf nodedig, enwaf Mri. R.T. Roberts, N.L. Jehu, H.A. Powell, W.A. Jones, Evan Watts, Rees Llewelyn, ac yn olaf Samuel Williams, Ysw., golygydd y Bulletin, yr hwn oedd yn meddu meddwl cryf a chorff gwan, ac erbyn hyn sydd yn gorwedd yn mhriddellau y dyffryn. Collodd San Francisco un o'r meddylwyr mwyaf galluog, pan fu farw Mr, Williams, ac yr oedd yn un o'r ysgrifenwyr rhwyddaf a mwyaf darllenadwy. Efe oedd Llywydd Budd Gymdeithas y Cymry yn San Francisco; a thrwy ei lafur ef y daeth y Gymdeithas i'r cyflwr llwyddianus y mae ynddo."