Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
==Mawrth==
* [[5 Mawrth]] - Golwg 360 yn nodi fod 2 wedi eu profi'n bositif.<ref>[https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/564285-dros-achosion-covid-bellach-mhrydain 'Achos newydd o’r Coronafirws yng Nghymru';] adalwyd 28 Mawrth 2020.</ref>
 
* [[17 Mawrth]] - Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi eu bod yn neilltuo £200 miliwn ar gyfer y byd busnes, i'w digolledu oherwydd effaith y Gofid Mawr.<ref>[https://nation.cymru/news/welsh-government-must-confirm-when-schools-are-going-to-close/ nation.cymru;] adalwyd 28 Mawrth 2020.</ref>
 
* [[21 Mawrth]] - twristiaid yn tyrru i fewn i Gymru i'w tai haf a'u carafanau; posteri a cheir yn cael eu gosod i geisio atal hyn a galw mawr ar Lywodraeth Cymru i ymateb.
 
* [[25 Mawrth]] - Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau mynediad i'r mynyddoedd prysuraf ar unwaith. Anogodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn holl asiantaethau llety gwyliau i gau yn syth.<ref>[https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/byw/52021037 Gwefan bbc.co.uk;] adalwyd 28 Mawrth 2020.</ref>
 
* [[27 Mawrth]] - cyhoeddodd [[Stadiwm y Mileniwm]] eu bod am gydweithio i droi'r stadiwm yn ysbyty i 2,000 o gleifion a bod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £8m ar gyfer ysbytai Caerdydd.
 
* [[28 Mawrth]], dywedodd yr Athro Deian Hopkin ar [[Radio Cymru]] "Pam yn y byd fod na ddiffyg paratoi, a hwnnw'n ddiffyg o ran yr offer diogelwch a'r broblem o fethu prynnu nwyddau, gan nad oedd unrhyw system [[dogni]] yn ei lle. Roedd diffyg gwybodaeth hefyd yn bodoli yng ngwanwyn 2020."
 
==Gweler hefyd==