Àlex Hinojo Sánchez

Rheolwr Prosiect gyda Sefydliad Wicimedia ydy Alex Hinojo Sánchez (g. Barcelona,​​ 1980), sy'n adnabyddus ar Wicipedia fel Kippelboy. Mae'n flaenllaw iawn gyda GLAM-Wici ac yn un o arweinwyr Amical Wikimedia sef Wicipedia Catalwnia. Yn ei rôl mae'n llysgennad diwylliant Wicipedia Catalwnia o fewn amgueddfeydd y wlad, a sefydliadau diwylliannol eraill. GLAM-Wiki yw'r prosiect Wicimedia sy'n ymwneud â 'Galeriau, Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd, Archifdai a Mwy'.[1]

Àlex Hinojo Sánchez
LlaisÀlex Hinojo (veu).ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd13 Medi 1980 Edit this on Wikidata
Barcelona Edit this on Wikidata
Man preswylSabadell Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Alma mater
  • Prifysgol Agored Catalwnia
  • Prifysgol Barcelona
  • Prifysgol Pompeu Fabra, Catalwnia Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd diwylliannol, Wicimediwr Preswyl, Wicimediwr Preswyl, Q112879913 Edit this on Wikidata
Swyddcyfarwyddwr, project director Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwefanhttp://www.alexhinojo.cat Edit this on Wikidata
Àlex Hinojo Sánchez ym Mai 2012.

Rheolaeth busnes oedd ei faes academaidd cyn troi i fyd y wici, ac mae ganddo hefyd radd mewn astudiaethau amgueddfaol ac ail radd mewn rheolaeth diwylliannol.

Wedi iddo orffen ym Mhrifysgol Universitat Oberta de Catalunya bu'n gweithio gyda @CatalanMuseums, Europeana a Museu Nacional d'Art de Catalunya (MNAC).[2][3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Catalaneg www.324.cat adalwyd 27 Awst 2014
  2. elpais.com; adalwyd 27 Ionawr 2016
  3. cccb.org; adalwyd 27 Ionawr 2016
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: