Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Mae Ôl-foderniaeth yn label ar fathau o arferion diwylliannol a meddwl athronyddol sydd yn gwrthod safbwyntiau modernaidd. Yn fwy penodol, gwelir yma dueddiadau mewn diwylliant cyfoes a nodweddir gan y broblem o wirionedd gwrthrychol ac amheuaeth gynhenid tuag at naratif byd eang diwylliannol neu feta-naratif. Gwelir yma'n aml y gred fod y rhan fwyaf o realiti - os nad y cyfan - yn adeiladaeth gymdeithasol, ac yn agored i newid sy'n dibynnu ar leoliad ac amser.

Ôl-foderniaeth
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, mudiad diwylliannol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1940s Edit this on Wikidata
SylfaenyddCharles Jencks, Christopher Alexander Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pwysleisir gan ôl-fodernwyr swyddogaeth iaith, perthynas lywodraethol, a chymhelliant, gan ymosod ar ddosbarthiadau llym megis dyn yn erbyn menyw, du yn erbyn gwyn, anghyfunrhyw yn erbyn cyfunryw ac imperialaeth yn erbyn gwladychiaeth.

Tuedda meddylwyr ôl-fodernaidd awgrymu bod realiti yn lluosog ac yn gymharol: y mae felly'n dibynnu ar y carfanau sy’n dangos diddordeb ac yn ymglymu. Mae ôl-foderniaeth wedi dylanwadu ar nifer o feysydd diwylliannol, gan gynnwys crefydd, beirniadaeth laith, cymdeithaseg, ieithyddiaeth, pensaernïaeth, anthropoleg, y celfyddydau gweledol, a cherddoriaeth.