Cyfres ddrama ar-lein yw 13 Reasons Why (ysgrifennir ar-sgrin fel Th1rteen R3asons Why) sy'n seiliedig ar y nofel a gyhoeddwyd yn 2007 gan Jay Asher ac addaswyd gan Brian Yorkey i Netflix[2]. Mae'r gyfres yn dilyn myfyrwr, Clay Jensen, a'i ffrind Hannah Baker, merch a laddodd ei hun ar ôl dioddef cyfres o amgylchiadau digalon a achoswyd gan rai unigolion yn ei hysgol. Ceir bocs o dapiau casét yn manylu'r 13 rheswm am ei hunanladdiad.

13 Reasons Why
Genre
  • Drama arddegau
  • Dirgelwch
Seiliwyd arThirteen Reasons Why gan
Jay Asher
Datblygwyd ganBrian Yorkey
Yn serennu
  • Dylan Minnette
  • Katherine Langford
  • Christian Navarro
  • Alisha Boe
  • Brandon Flynn
  • Justin Prentice
  • Miles Heizer
  • Ross Butler
  • Devin Druid
  • Amy Hargreaves
  • Derek Luke
  • Kate Walsh
Adroddwyd ganKatherine Langford
Cyfansoddwr/wyrEskmo
GwladUnol Daleithiau
Iaith wreiddiolSaesneg
Nifer o dymhorau1
Nifer o benodau13
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd/wyr gweithredol
  • Diana Son
  • Tom McCarthy
  • Joy Gorman Wettels
  • Steve Golin
  • Michael Sugar
  • Selena Gomez
  • Mandy Teefey
  • Kristel Laiblin
Cynhyrchydd/wyr
  • Joseph Incaprera
Golygydd(ion)Leo Trombetta
Lleoliad(au)Califfornia, U.D.A.
Gosodiad cameraCamera sengl
Hyd y rhaglen49–61 munud
Cwmni cynhyrchu
Dosbarthwr
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolNetflix
Fformat y llun4K ([Ultra HD)[1]
Darlledwyd yn wreiddiol31 Mawrth 2017 (2017-03-31) – presennol
Dolennau allanol
Gwefan

Cynhwysa'r tymor cyntaf o 13 o benodau.[3][4] Cynhyrchwyd y gyfres gan July Moon Productions, Kicked to the Curb Productions, Anonymous Content a Paramount Television. Yn wreiddiol, roedd yn mynd i fod yn ffilm i'w darlledu gan Universal Pictures gyda Selena Gomez yn y prif rôl, ond mabwysiadwyd y cynhyrchiad gan Netflix yn 2015 gyda Gomez fel cynhyrchydd gweithredol. Rhyddhawyd y tymor cyntaf a'r bennod arbennig, 13 Reasons Why: Beyond the Reasons, ar Netflix ar yr 31 Mawrth 2017.

Mae'r gyfres wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol o feirniaid a chynulleidfaoedd, sydd wedi canmol ei thestun a chymeriadau, yn enwedig y ddau actor arweiniol, Dylan Minnette a Katherine Langford. Mae hefyd wedi denu dadl o ganlyniad i'w phortread graffig o faterion sensitif sef hunanladdiad a thrais rhywiol, yn ogystal â chynnwys aeddfed arall. Ym mis Mai o 2017, cyhoeddwyd y bydd tymor arall yn cael ei ddarlledu yn 2018.[5]

Stori golygu

Mae Clay Jensen yn cyrraedd ei dŷ ac yn darganfod bocs dirgel tu fas iddo. O'i fewn, mae e'n darganfod saith casét dau-ochrog a recordwyd gan Hannah Baker, ei ffrind agos, a laddodd ei hun rhyw ddwy wythnos yn gynharach. Ar y tapiau, mae Hannah yn datgelu dyddiadur llafar torcalonnus ac yn manylu'r 13 rheswm a wthiodd iddi ddiweddu ei bywyd. Mae ei chyfarwyddiadau yn glir: un o'r rhesymau am ei hunanladdiad ydy pob person a dderbyna'r bocs. Ar ôl i bob person wrando ar y tapiau, mae'n rhaid iddynt basio'r pecyn ymlaen i'r derbynnydd nesaf. Pe bai rhywun beidio â dilyn y cyfarwyddiadau, wedyn caiff set gwahanol o dapiau ei rhyddau i'r cyhoedd. Cyfeirir pob tâp i berson penodol yn ei hysgol ac yn manylu eu cyfraniad at ei hunanladdiad yn y pen draw. [6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "13 Reasons Why". instantwatcher.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ebrill 2017. Cyrchwyd 2 Ebrill 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "'Spotlight's Brian d'Arcy James Cast In Netflix Series '13 Reasons Why', Joins TNT Pilot 'Civil'". Deadline. June 15, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Andreeva, Nellie (26 Chwefror 2016). "Diana Son Joins Selena Gomez's Netflix Series '13 Reasons Why' As Showrunner". Deadline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Medi 2016. Cyrchwyd 16 Medi 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Andreeva, Nellie (June 8, 2016). "'13 Reasons Why' Netflix Series: Dylan Minnette & Katherine Langford Lead Cast". Deadline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 14, 2016. Cyrchwyd 16 Medi 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "'13 Reasons Why' Renewed for a Second Season at Netflix". Variety. 7 Mai 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mai 2017. Cyrchwyd 7 Mai 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Crynodeb o'r gyfres 13 Reasons Why". Shmoop. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-27. Cyrchwyd 22/09/17. Check date values in: |access-date= (help)