Priffordd yng Nghaerdydd yw'r A4232, a elwir y Ffordd Ddosbarthu Ymylol (Saesneg: Peripheral Distributor Road (PDR)) neu Ffordd Gyswllt Caerdydd (Saesneg: Cardiff Link Road).

A4232
Enghraifft o'r canlynolffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1978 Edit this on Wikidata
Hyd17.4 milltir Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffordd gysylltu Croes Cwrlwys

Cwblhawyd y rhan gyntaf o'r Ffordd Ddosbarthu Ymylol yn 1978. Pan gaiff ei gorffen, bydd yn rhan o system ffordd amgylchynol Caerdydd; hyd yn hyn mae tua 14 milltir ohoni wedi ei hagor. Mae'n ffordd ddeuol bron ar ei hyd, heblaw yr East Moors Viaduct.

Awyrlun o ffordd yr A4232 yn 2017.

Yn y gorllewin, mae'n cychwyn o gyffordd 33 y draffordd M4. Mae'm arwain tua'r de-ddwyrain i gysylltu a'r A48 ger Croes Cwrlwys, yna'n mynd ymlaen tua'r dwyrain ar hyd ochr ddeheuol dinas Caerdydd. Mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain i groesi Bae Caerdydd a diweddu ger Trefute.