A493

ffordd yng Ngwynedd

Priffordd yn ne Gwynedd yw'r A493, sy'n arwain ar hyd yr arfordir o gyffiniau Dolgellau hyd at gyffiniau Machynlleth.

A493
Yr A493 yn Aberdyfi
Mathffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6454°N 4.1107°W Edit this on Wikidata
Hyd32 milltir Edit this on Wikidata
Map

Mae'n gadael y briffordd A470 fynryn i'r gogledd-orllewin o Ddolgellau, ac yn arwain tua'r gorllewin ar hyd glan ddeheuol Afon Mawddach heibio Penmaenpŵl, cyn troi tua'r de ger Arthog. Maen mynd heibio Y Friog a Llwyngwril, yna ychydig ar ôl Llangelynnin yn troi tua'r dwyrain i ffwrdd o'r arfordir heibio Llanegryn a chroesi Afon Dysynni i bentref Bryncrug.

Wedi dychwelyd at yr arfordir i fynd trwy dref Tywyn, mae'n parhau tua'r de hyd Aberdyfi, lle mae'n troi tua'r dwyrain i arwain ar hyd glan ogleddol Afon Dyfi trwy Pennal. Mae'n ymuno a'r A487 ger Pont ar Ddyfi, rhyw filltir i'r gogledd o Fachynlleth.