Ffordd 24 km (15 milltir) o hyd ydy'r A498, rhwng Pen-y-Gwryd a Porthmadog.

A498
Mathffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0179°N 4.0946°W Edit this on Wikidata
Hyd14.8 milltir Edit this on Wikidata
Map

Ym Mhen-y-Gwryd, mae'r A4086, lôn Bwlch Llanberis yn troi i ffwrdd i'r gogledd. Mae'r A498 yn disgyn o gopa 277m (909 tr.) Pen-y-Gwryd ac yn rhedeg i'r de orllewin trwy Nant Gwynant a thrwy bentref Beddgelert a Bwlch Aberglaslyn, lle mae'n gorgyffwrdd yr A4085. Mae'r A498 yn teithio trwy Tremadog, lle mae'n gorgyffwrdd yr A487 am bellter byr cyn pasio o dan bont sy'n dwyn Rheilffordd Arfordir Cambrian a gorffen ym Mhenamser ar yr A497, tua milltir i'r gorllewin o Borthmadog. Yn ei ben gogleddol, mae'r ffordd yn cysylltu trwy'r A4086 gyda'r A5 yng Nghapel Curig, gan ffurfio llwybr defnyddiol ar gyfer ymwelwyr i ardal Beddgelert a Porthmadog. Wrth y cyffyrdd, mae'r A4086 i Llanberis yn ffordd llai ym Mhen-y-Gwryd, tra mai'r A498 yw'r ffordd llai ym Meddgelert. Wrth Pont Aberglaslyn, mae'r A4085 yn ffordd llai sy'n dargyfeirio tuag at Penrhyndeudraeth ac yn Nhremadog, yr A498 yw'r briffordd. Mae'r cyffordd i'r gorllewin o Dremadog yn gylchfan ac ym Mhenamser, yr A498 yw'r ffordd llai unwaith eto.

Yr A498 yn rhan uchaf Nant Gwynant.

Ceir allt serth yn Nant Gwynant, lle ceir tua 1¾ milltir yn ansawdd is-safonol, cul a throellog lle mae cerbydau mwy yn cael trafferth pasio. Mae adrannau eraill is-safonol rhwng Bwlch Aberglaslyn a thuag at Tremadog, caiff fysiau drafferth pasio yn y darnau hyn o'r ffordd. Mae'r ffordd yn mynd trwy Feddgelert ar ongl lem dros hen bont; ni argymhellir hyn ar gyfer cerbydau cymalog. Ym Mwlch Aberglaslyn gellir gweld gwely trac Rheilffordd Ucheldir Cymru ar ochr arall Afon Glaslyn, sydd erbyn hyn yn cael ei ail-adeiladu. Yn ei phen gorllewinol mae'r llwybr yn croesi'r llinell a fwriadir ar gyfer ffordd osgoi A487 Porthmadog ar gylchfan Tremadog.

Hanes golygu

Ffurfiwyd y ffordd o ffyrdd tollau cynnar, roedd tipyn o welliant yn yr 1960au a'r 1970au yn Nant Gwynant i'r de o fwlch Aberglaslyn. I'r de o Westy'r Afr ym Meddgelert mae pont fwaog rheilffordd uwchben, gyda chyfyngiadau uchder a lled, a adeiladwyd gan gwmni Rheilffordd Portmadog, Beddgelert a De Eryri, ond ni ddefnyddiwyd hi fyth.

Dolenni allanol golygu