AB Volvo

cwmni cynhyrchu peiriannau trwm

Cwmni cynhyrchu peiriannau trwm a cherbydau ydyw Volvo, Volvo Group, neu'n gyfreithiol: Aktiebolaget Volvo, a dalfyrir yn AB Volvo. Grwp o gwmniau ydyw mewn gwirionedd sydd a'i bencadlys yn Gothenburg, Sweden. Mae'r hyn a gynhyrchir ganddynt yn amrywiol iawn ac yn cynnwys cynhyrchu a gwerthu cerbydau o bob math, ond gan mwyaf yn rhai trwm fel bysiau, loriau a thryciau; mae'r cwmni hefyd yn cynhyrchu a gwerthu ceir. Yn ogystal â cherbydau, mae'n cynhyrchu peiriannau ac offer morwrol eraill a pheiriannau ac offer diwydiannol trwm.

AB Volvo
Math
cwmni cyhoeddus
Math o fusnes
Aktiebolag
ISINSE0000115420
DiwydiantDiwydiant ceir
Sefydlwyd1927
SefydlyddSKF
PencadlysGöteborg
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
Cynnyrchlori
Nifer a gyflogir
94,914 (2016)
Is gwmni/au
Volvo Bussar
Gwefanhttps://www.volvogroup.com/ Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl hon yn sôn am y cwmni gwreiddiol AB Volvo, sy'n dal i gynhyrchu peiriannau trwm. Am y cwmni ceir, gweler Volvo Cars.

Mae Volvo Cars (Volvo Personvagnar), fodd bynnag yn gwmni hollol ar wahân, ers 1999, pan gafodd ei werthu i Gwmni Cerbydau Ford. Yr unig ddau beth sy'n gyffredin rhwng y ddau gwmni yw eu bod yn rhannu'r un logo ac yn cydweithio drwy redeg amgueddfa.

Sefydlwyd y cwmni yn 1915 fel un o isgwmniau SFK, cwmni gwneud peli meteal (ball bearings). Ond mae'r ddau gwmni (Volvo Group a Volvo Cars) yn nodi'r dyddiad 14 Ebrill 1927 fel y dyddiad swyddogol, gan mai ar y dydd hwn y rhowliodd y car cyntaf o linell cynhyrchu'r ffatri yn Hisingen, Gothenburg.[1] Mae'r adeilad yn dal yno (57°42′50″N 11°55′19″E / 57.71389°N 11.92194°E / 57.71389; 11.92194).

Ystyr Volvo ydy "Dw i'n rholio" yn Lladin, gan gyfeirio at y peli bach metal roedd y cwmni yn ei gynhyrchu. Cofrestrwyd yr enw 'Volvo' yn wreiddiol ar gyfer brand newydd o beli bach, ond defnyddiwyd 'SKF' yn y diwedd.

Yn 1924 cytunodd dau ddyn: Assar Gabrielsson, un o reolwyr gwerthiant SKF a'r peiriannydd Gustav Larson, i gynhyrchu car Swedaidd a fyddai'n addas ar gyfer ffyrdd ac amgylchedd oer y wlad.[2]

Wedi cyfnod o flwyddyn o arbrofi gyda deg prototeip, cychwynwyd cynhyrchu car o fewn y cwmni SKF. Cofrestwryd yr isgwmni AB Volvo ar Gyfnewidfa Stoc Stockholm yn 1935 a gwerthodd SKF ei siars yn y cwmni. Yn 2007, dadgofrestrwyd Volvo o'r NASDAQ, ond mae'n parhau fel cwmni ar Gyfnewidfa Stoc Stockholm.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Volvo's founders : Volvo Group – Global". Volvo. 14 Ebrill 1927. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-22. Cyrchwyd 12 Mehefin 2009.
  2. "History time-line : Volvo Group – Global". Volvo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-20. Cyrchwyd 12 Mehefin 2009.
  3. "AB Volvo applies for delisting from Nasdaq". Forbes. 14 Mehefin 2007. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2010.