Sefydliad rhyngwladol sy'n trefnu cynadleddau i drafod masnach rydd rhwng 21 o wledydd ar ymylon y Môr Tawel yw APEC (Cydweithrediad Economaidd Asia a'r Cefnfor Tawel).[1] Sefydlwyd ym 1989 i greu bloc masnachol o economïau cyd-ddibynnol y Cefnfor Tawel; i wrthbwyso dominyddiaeth Japan ar economi Dwyrain Asia; ac i sefydlu marchnadau newydd y tu hwnt i Ewrop am gynnyrch amaethyddol a defnyddiau crai.[2]

APEC
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhynglywodraethol Edit this on Wikidata
Label brodorolAsia-Pacific Economic Cooperation Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu6 Tachwedd 1989 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolAwstralia, Brwnei, Canada, Indonesia, Japan, De Corea, Maleisia, Seland Newydd, y Philipinau, Singapôr, Gwlad Tai, Unol Daleithiau America, Taiwan, Hong Cong, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mecsico, Papua Gini Newydd, Tsile, Periw, Rwsia, Fietnam Edit this on Wikidata
Gweithwyr50 Edit this on Wikidata
PencadlysSingapôr Edit this on Wikidata
Enw brodorolAsia-Pacific Economic Cooperation Edit this on Wikidata
GwladwriaethSingapôr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.apec.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aelodau APEC (gwyrdd).

Cynhelir cyfarfod blynyddol gan bob aelod yn eu tro, a fynychir gan holl benaethiaid llywodraethol yr aelod-wladwriaethau ac eithrio Taiwan (a gynrychiolir gan weinidog a elwir yn "arweinydd economaidd Taipei Tsieineaidd").[3] Traddodiad gan yr arweinwyr yn y mwyafrif o gynadleddau yw gwisgo gwisg genedlaethol y wlad sy'n cynnal y cyfarfod y flwyddyn honno.

Cyfeiriadau golygu