A Scandal in Bohemia

Mae A Scandal in Bohemia yn stori gan yr awdur Albanaidd Syr Arthur Conan Doyle.[1]

A Scandal in Bohemia
Irene Adler a Brenin Bohemia yn Amgueddfa Sherlock Holmes
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Label brodorolA Scandal in Bohemia Edit this on Wikidata
AwdurArthur Conan Doyle Edit this on Wikidata
GwladLloegr
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiGorffennaf 1892 Edit this on Wikidata
DarlunyddSidney Paget
Genreffuglen dditectif, ffuglen drosedd Edit this on Wikidata
CyfresThe Adventures of Sherlock Holmes, Rhestr o lyfrau Sherlock Holmes Edit this on Wikidata
Olynwyd ganThe Adventure of the Red-Headed League Edit this on Wikidata
CymeriadauSherlock Holmes, Dr. John Watson, Irene Adler, Wilhelm Gottsreich Sigismond von Ormstein Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolA Scandal in Bohemia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cefndir golygu

Fe ymddangosodd y stori gyntaf yn The Strand Magazine ym mis Gorffennaf 1891. Mae'n stori dditectif am y cymeriad Sherlock Holmes. Roedd y ddwy nofel A Study in Scarlet (1887) a The Sign of the Four (1890), wedi gosod y sylfaen ar gyfer prif ganon hanesion Sherlock Holmes. Wedi ysgrifennu'r ddwy nofel hir trodd Doyle ei law at straeon byr. A Study in Scarlet yw'r stori fer gyntaf yng nghanon storïau Holmes.

Cyhoeddwyd Y Sgandal y Mohemia yn y flodeugerdd The Adventures of Sherlock Holmes ym 1892 ac mae'n un o straeon mwyaf poblogaidd Sherlock Holmes. Ym 1927, rhestrodd Conan Doyle y stori yn y 5ed safle ar y rhestr o'i hoff straeon Holmes.[2]

Dyma'r stori gyntaf allan o 38 o storïau Doyle am Holmes i gael ei ddarlunio gan Sidney Paget.

Plot golygu

Ar noson ym Mawrth, 1888, ymwelodd ei ffrind Dr Watson â Sherlock Holmes yn ei gartref, 221B Baker Street. Tra ei fod yno mae dyn yn cyrraedd mewn cuddwisg. Mae'r dyn yn honni mae ei enw yw'r Iarll Von Kramm, a'i fod yno fel asiant ar gyfer client cyfoethog. Mae Holmes yn sylweddoli'n syth mae Brenin Bohemia yw'r ymwelydd. Mae'r brenin yn cydnabod ei hunaniaeth ac yn tynnu'r guddwisg.

Mae'r Brenin yn egluro ei broblem. Mae'n bwriadu priodi tywysoges o Sgandinafia. Mae rhieni'r dywysoges yn bobl o egwyddorau moesol uchel. Pe baent yn clywed smic o sgandal am y Brenin byddent yn sicr o ganslo'r briodas. Rhai blynyddoedd ynghynt roedd y brenin wedi cael perthynas rhamantaidd efo dynes o'r enw Irene Adler. Roedd Adler yn gantores opera Americanaidd ac roedd y ddau wedi dechrau eu perthynas tra roedd hi'n prima donna yn Opera Ymerodrol Warsaw. Mae Adler, sydd wedi ymddeol i Lundain, yn berchen ar lythyrau gan y Brenin a llun o'r ddau gyda'i gilydd. Mae Adler yn credu bod y brenin wedi ei cham-drin. Wedi ei defnyddio hi am hwyl cyn ymadael a hi i briodi merch o statws cymdeithasol uwch. Mae'r Brenin yn ofni bydd Adler yn defnyddio'r llythyrau a'r llun i greu sgandal cyn y briodas. Mae'r Brenin am i Holmes adfer y lluniau a'r llythyrau.

Mae Holmes yn cuddwisgo fel gwas stabl, hen ficer a meddwyn er mwyn canfod gwybodaeth am Adler a chuddfan y llun a'r llythyrau. Trwy ddefnyddio bom mwg i ffugio tân yn nhŷ Adler mae'n canfod y man cuddio ond mae Adler yn llwyddo ffoi o'r tŷ gyda'r llun. Yn ystod cyfnod yr archwiliad mae Adler yn priodi bargyfreithiwr o'r enw Godfrey Norton ac yn ymadael â Loegr gyda'r llun. Dyma un o'r ychydig achosion mae Holmes yn methu dod â dasg i ben yn hollol lwyddiannus. Er gan nad yw Adler yn defnyddio'r lluniau i rwystro priodas y brenin mae'n rannol lwyddiannus.[3]

Irene Adler golygu

Ar adeg ysgrifennu Y Sgandal ym Mohemia roedd Holmes yn dal i fod yn gymeriad gweddol newydd. Roedd wedi ymddangos mewn dim ond dwy nofel ac yn ymddangos mewn stori fer am y tro cyntaf. Trwy ddefnyddio cymeriad benywaidd cryf, peth anghyffredin mewn llenyddiaeth ei gyfnod,[4] roedd Doyle yn anturus iawn. Roedd Adler yn fwy na'r arwresau benywaidd mewn llyfrau i ferched fel Jane Eyre. Roedd Adler yn arwres fenywaidd mewn genre gwrywaidd sy'n llwyddo i gael y gorau ar ddyn hynod alluog a dewr. Dim ond yn yr un stori fer yma mae Adler yn gymeriad.[5].

Mae Holmes yn ddweud wrth gleient yn The Adventure of The Five Orange Pips iddo gael ei drechu ar lond llaw o achlysuron yn unig a dim ond unwaith gan fenyw. Mae rhai wedi awgrymu ei fod yn cyfeirio at Adler (er bod y Pump Pip Oren wedi ei osod 12 mis cyn y Sgandal ym Mohemia). Os ydy Holmes yn cyfeirio at Adler dyma'r unig gyfeiriad ati tu allan i stori'r Sgandal. Er hynny mae cryfder ei chymeriad wedi rhoi iddi rôl ganolog mewn nifer o weithiau ddeilliannol am Holmes fel yr unig ferch i Holmes ei charu, neu'r rheswm am ei agwedd dilornus tuag at fenywod.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Y stori ar Internet Archive adalwyd 23 Chwefror 2020
  2. 12 best Sherlock Holmes stories handpicked by creator Sir Arthur Conan Doyle adalwyd 23 Chwefror 2020
  3. Gradesaver - The Adventures of Sherlock Holmes Summary and Analysis of "A Scandal in Bohemia" adalwyd 23 Chwefror 2020
  4. The 12 Best Sherlock Holmes Stories, According to Arthur Conan Doyle adalwyd 23 Chwefror 2020
  5. "Irene Adler - Official Conan Doyle Character". The Official Conan Doyle Estate Ltd. Cyrchwyd 2020-02-23
  6. Redmond, Christopher (2002). In Bed with Sherlock Holmes: Sexual Elements in Arthur Conan Doyle's Stories. Toronto, Canada: Dundurn Press. tud. 57–66. ISBN 978-0889241428.