Abaty Grace Dieu

abaty yn Nhrefywny

Abaty Sistersaidd oedd Abaty Grace Dieu, a sefydlwyd ar gais John, Arglwydd Trefynwy yn 1226. Roedd yn dŷ cangen o Abaty Dore, oedd ei hun yn dŷ cangen o Abaty Morimund yn Ffrainc. Lleolid hi ychydig i'r gogledd o Drefynwy.

Abaty Grace Dieu
Mathabaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1226 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.814246°N 2.797477°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM158 Edit this on Wikidata

Fel sefydliad estron, nid oedd yn boblogaidd gyda'r Cymry. Dinistriwyd yr abaty yn un o ymgyrchoedd Llywelyn Fawr yn 1233. Ail-sefydlwyd yr abaty ar safle newydd, ar lan Afon Trothi, 6 km i'r gorllewin o Drefynwy, erbyn 1236. Talodd Llywelyn iawndal iddynt yr un flwyddyn.

Abaty tlawd fu Grace Dieu erioed; amcangyfrifwyd ei werth fel £18 yn asesiad 1291 (o'i gymharu a £145 ar gyfer Abaty Tyndyrn gerllaw), ac yn 1335, esgymunwyd yr abad am fethu talu ei ddegwm. Adeg chwalu'r mynachlogydd, dim ond dau fynach oedd yno, a dim ond £19 oedd yr amcangyfrif o werth yr abaty. Nid oes dim o'i gweddillion yn weladwy.

Llyfryddiaeth golygu