Abaty Margam

abaty ym Mhort Talbot, De Cymru

Abaty Sistersiaidd oedd Abaty Margam, sydd wedi ei leoli ym Margam ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.

Abaty Margam
Mathmynachlog, abaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMargam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.56238°N 3.729888°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM005 Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Sefydlwyd yr abaty yn 1147 fel tŷ cangen o Abaty Clairvaux gan Robert, Iarll Caerloyw, a chysegrwyd hi i'r Santes Fair. Daeth yn noddfa bwysig i feirdd Morgannwg, yn enwedig yng nghyfnod yr Abad Dafydd ap Tomas (1500-1517). Diddymwyd yr abaty gan Harri VIII, brenin Lloegr, yn 1536, ac fe'i gwerthwyd i Syr Rice Mansel. O'r teulu Mansel, disgynodd yr eiddo i lawr y llinell benywaidd gan ddod i berchnogaeth y teulu Talbot. yn y 19g, adeiladodd C R M Talbot blasdy Castell Margam sydd yn edrych i lawr ar adfeilion yr abaty.

 
Eglwys plwyf Margam, ar safle'r abaty

Heddiw golygu

Mae Abaty Margam erbyn heddiw yn adfail heblaw corff y capel, sydd yn dal yn gyfan. Mae corff capel yr abaty yn dal i gael ei ddefnyddio fel capel plwyf hyd heddiw. Mae'r adfeilion sydd ddim yn perthyn i'r capel, yn perthyn i'r cyngor. Mae'r adfeilion yn cynnwys cabidyldy anarferol o fawr sy'n dyddio o'r 13g, ac yn sefyll o fewn 840 erw Ystad Wledig Margam ger Castell Margam. Ar y bryn uwchben yr abaty, mae adfeilion mynachdy Capel Mair ar y Bryn; ar un adeg roedd 12 mynach yn byw yno.