Abdullah I, brenin Iorddonen

teyrn (1882-1951)

Brenin Gwlad Iorddonen o 1946 hyd 1951 oedd Abdullah I bin al-Hussein (Arabeg: عبد الله الأول بن الحسين‎, Chwefror 1882 – 20 Gorffennaf 1951) ac yn Emir Transjordan o 1921 hyd 1946. Roedd yn un o feibion Hussein bin Ali, Sharif Mecca, ac yn rhan o'r Gwrthryfel Arabaidd. Cafodd ei fradlofruddio tra'n ymweld â Mosg Al-Aqsa yn Jeriwsalem.[1] Cafodd ei olynu gan ei fab Talal. Ef oedd brenin cyntaf teyrnad Gwlad Iorddonen gan ddechrau llinach Hashimaidd sydd dal i reoli'r wlad.

Abdullah I, brenin Iorddonen
Ganwyd2 Chwefror 1882 Edit this on Wikidata
Mecca Edit this on Wikidata
Bu farw20 Gorffennaf 1951 Edit this on Wikidata
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Otomanaidd, Teyrnas Hijaz, Trawsiorddonen, Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
SwyddBrenin Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
TadHussein bin Ali, Sharif Mecca Edit this on Wikidata
MamAbdiya bint Abdullah Edit this on Wikidata
PriodMusbah bint Nasser Edit this on Wikidata
PlantTalal, brenin Iorddonen, Naif bin Abdullah Edit this on Wikidata
LlinachHashimiaid Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen, Order of Pahlavi, King George VI Coronation Medal, Urdd yr Hashimites, Urdd Al Rafidain, Urdd Umayyad, Nishan Mohamed Ali Edit this on Wikidata

Yn ystod ei deyrnasiad lluniwyd a chadarnhawyd dylyniad Arfbais Gwlad Iorddonen yn 1934.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Assassination of King Abdullah. The Guardian (21 Gorffennaf 1951). Adalwyd ar 11 Awst 2012.

Llyfryddiaeth golygu

  • Abdullah. Memoirs of King Abdullah of Transjordan (Llundain, Jonathan Cape, 1950). Cyfieithwyd gan G. Khuri.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Iorddoniad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.