Abdulrahim Abby Farah

Diplomydd a gwleidydd Somali oedd Abdulrahim Abby Farah (Arabeg: عبد الرحيم آبي فرح‎)‎ 22 Hydref 191914 Mai 2018). Bu'n gwasanaethu fel Cynrychiolydd Parhaol o Somalia i'r Cenhedloedd Unedig, ac fel y Llysgennad o Somalia i Ethiopia.[1] Ef oedd cadeirydd y sefydliad anllywodraethol PaSAGO.

Abdulrahim Abby Farah
Ganwyd22 Hydref 1919 Edit this on Wikidata
Berbera Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mai 2018 Edit this on Wikidata
Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSomalia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSomali Youth League Edit this on Wikidata
Abdulrahim Abby Farah
Cynrychiolydd parhaol Somalia i'r Cenhedloedd Unedig
Mewn swydd
1965–1972
Prif WeinidogAbdirizak Haji Hussein
Llysgennad Somalia i Ethiopia
Mewn swydd
1961–1965
Prif WeinidogAbdirashid Ali Sharmarke

Bywyd personol golygu

Ganwyd Farah ar 22 Hydref 1919, yn y Barri, Cymru, ond mae'n hanu o is-lwyth Issa Musse yr Isaaq.[2][3]

Ar gyfer ei addysg drydyddol, enillodd radd o Goleg y Brifysgol, Exeter a Prifysgol Rhydychen yn Lloegr.

Roedd Farah yn briod gyda phump o blant.[4]

Gyrfa golygu

Cychwynnodd Farah ei yrfa diplomyddol gyda gweinyddiaeth Ymddiriedolaeth Tiriogaeth Somaliland, ac ar ôl annibyniaeth, gyda llywodraeth sifil cynnar Gweriniaeth Somali.Gwasanaethodd mewn sawl swydd yno rhwng 1951 a 1961, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodaeth Somali.

Rhwng 1961 a 1965, roedd Farah yn Llysgennad Somalia i Ethiopia. Bu'n gweithredu fel cynrychiolydd Somalia i Gomisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros Affrica (ECA) yn 1962. Cynrychiolodd Farah y wlad hefyd yng nghyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion o Sefydliad Undod Affricanaidd (OAU) yn 1964 a 1965.

O 1965 i 1972, roedd Farah yn Cynrychiolydd Parhaol Somalia i'r Cenhedloedd Unedig yn Ninas Efrog Newydd. Ar yr un pryd gwasanaethodd fel y Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro yng Ngweinyddiaeth Materion Tramor Somalia yn 1966.[5]

O 1969 i 1972, roedd Farah yn Gadeirydd Pwyllgor Arbennig yr UN yn Erbyn Apartheid, gan lywyddu dros sesiwn arbennig o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn 1972.[6] Roedd yn gweithredu fel Ysgrifennydd Cynorthwyol-Cyffredinol ar gyfer Cwestiynau Gwleidyddol Arbennig rhwng 1973 a 1978. Yn ogystal, gwasanaethodd Farah fel cynrychiolydd Somalia o fewn Cynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd.[7] O 1979 hyd at 1990, roedd hefyd yn Is-ysgrifennydd-Cyffredinol ar gyfer Cwestiynau Gwleidyddol Arbennig .

Yn 1998, helpodd Farah sefydlu y Bartneriaeth i Gryfhau Sefydliadau Affricanaidd ar lawr gwlad (PaSAGO). Ers hynny, gwasanaethodd fel cadeirydd y corff. Bu farw Farah ym mis Mai 2018 yn 98.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. "FOREIGN RELATIONS OF THE UNITED STATES, 1964–1968 VOLUME XXIV, AFRICA, DOCUMENT 348". Cyrchwyd 2015-05-19.
  2. Who's who in the United Nations and Related Agencies. Arno Press. 1975. Cyrchwyd 2015-05-19.
  3. "Tenth Annual AMUN Conference, December 5-6, 1975". University of Central Arkansas. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-23. Cyrchwyd 2015--2-23. Check date values in: |access-date= (help)
  4. "Yonkers U.N. Families On The Go Yonkers U.N. Families On The Go" (PDF). Herald Statesman. 11 December 1970. Cyrchwyd 2015-05-20.
  5. "FRUS 1964-1968, Volume XXIV: 320". U.S. Department of State. Cyrchwyd 2015-03-23.
  6. Thomas, Scott M. (1996). The Diplomacy of Liberation: The Foreign Relations of the African National Congress Since 1960. I. B. Tauris. t. 115. ISBN 9781850439936.
  7. Pirouz Mojtahed-Zadeh (2013). Security and Territoriality in the Persian Gulf: A Maritime Political Geography. Routledge. t. 215. ISBN 1136817247. Cyrchwyd 2015-02-23.
  8. "Diplomat Abdulrahim Abby Farah passes away at 98". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-15. Cyrchwyd 2018-05-15.

Dolenni allanol golygu