Aber-craf

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bach yng nghymuned Ystradgynlais, Powys, Cymru, yw Aber-craf[1] neu Abercraf[2] (Saesneg: Abercrave). Saif yn ne-orllewin Brycheiniog yng Nghwm Tawe Uchaf, ac mae'n ymestyn i gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae heol yr A4067 o Abertawe i Aberhonddu yn mynd heibio i'r pentref.

Aber-craf
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8006°N 3.7131°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Fel y rhan fwyaf o Gymoedd y De, roedd nifer o weithfeydd glo yn yr ardal, sef y Lefel Fawr, International (Candy) a Glofa Abercraf, ond cawsant eu cau yn y chwedegau.

Mae'r pentref ar ymyl mynydd Cribarth. Mae'r mynydd yn atgoffa rhywun o siâp dyn yn gorwedd i lawr, felly mae'r bobl leol yn galw 'Y Cawr Cwsg' arno. Y lle gorau i wylio'r olygfa hon ydy Caerlan, filltir i lawr y cwm tuag at Ystradgynlais.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Clwb Rygbi Abercraf golygu

Mae clwb rygbi Abercraf yn chwarae yng Nghae Plas-y-Ddol yn y pentref. Cyn-chwaraewr enwocaf y clwb o bosibl yw'r prop pen tyn rhyngwladol Adam Rhys Jones.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 4 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol golygu