Abergorlech

pentref yn Swydd Gaerfyrddin

Pentref bychan a phlwyf yng nghymuned Llanfihangel Rhos-y-corn, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Abergorlech.[1][2] Saif yn rhannau uchaf Ystrad Tywi, ar aber Afon Gorlech yn Afon Cothi. Mae ar lôn y B4310 rhwng Llansawel i'r gogledd a Brechfa i'r de, tua 10 milltir i'r dwyrain o dref Llanymddyfri.

Abergorlech
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9833°N 4.0667°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN584336 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Roedd plwyf Abergorlech gynt yn gorwedd yng nghwmwd Caeo yn y Cantref Mawr.

Cysylltir y brudiwr Dafydd Gorlech (fl. tua 1410-1490), un o Feirdd yr Uchelwyr, ag Abergorlech, er nad oes sicrwydd iddo fyw yno.

Dwy filltir i'r gogledd ceir Rhydcymerau a Mynydd Llanybydder, bro'r llenor D. J. Williams.

Cynhelir yr eisteddfod gadeiriol flynyddol leol, Eisteddfod Abergorlech, yn Neuadd y Pentref.

Abergorlech: rhan o'r pentref

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 25 Chwefror 2022