Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Abertyleri[1] (Saesneg: Abertillery). Saif y dref 16 mi i'r Gogledd-orllewin o Gasnewydd, ar y Great Western Railway yn wreiddiol. Cododd ei phoblogaeth yn dra chyflym yn ystod y cyfnod o ddatblygu mwyngloddio yn Ne Cymru, gyda 10,846 o breswylwyr yn ôl Cyfrifiad 1891 ac wedyn i 21,945 ddeng mlynedd diweddarach. Yn gorwedd yn yr ardal fwyngloddio fynyddig o'r hen siroedd o Sir Fynwy a Sir Forgannwg, yng nghwm Ebwy Fach, roedd y preswylwyr fel arfer yn gweithio yn y glofeydd, gwaith haearn, a gwaith tunplat.

Abertyleri
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth11,601 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iRoyat Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,873.92 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.73°N 3.13°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000924 Edit this on Wikidata
Cod OSSO215045 Edit this on Wikidata
Cod postNP13 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/auNick Smith (Llafur)
Map

Mae sawl ysgol gynradd fach, ysgol uwchradd, a chanol tref traddodiadol gan Abertyleri. Heddiw, mae poblogaeth o 11,528 ganddi, ac yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 7% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg; mae 297 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 263 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 247 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 10.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[2]

Yn 2003, roedd tai rhataf y Deyrnas Unedig yn Abertyleri yn ôl arolwg y Halifax, gyda phris cyfartalog o £37,872.[3] Yn boblogaidd oherwydd ei golygfeydd gwledig, mae'r ardaloedd o Aber-bîg, Llanhiledd, Cwmtyleri, a Chwe Chloch ar ei phwys.

Mae'r enw'n ymddangos gyntaf mewn argraffiad ym 1779, a tharddiad y gair yw "Aber" (ceg afon) ac enw'r afon fechan "Teleri" a ymddangosodd gyntaf ym 1332. Mae'r gair hwnnw hefyd yn air cyfansawdd, sef "tŷ" ac "Eleri" (enw person).[4]

Roedd coedwig enfawr gerllaw'r dref ers talwm o'r enw Glyn Teleri, ond Cwmtyleri ydy'r enw sydd bellach ar yr ardal hon.


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Abertyleri (pob oed) (11,601)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abertyleri) (801)
  
7.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abertyleri) (10441)
  
90%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Abertyleri) (2,228)
  
43.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. "The Changing Face of Wales - Welsh Speakers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-03-24.
  3. Abertillery's the cheapest town (en) , South Wales Echo, 25 Ionawr 2003, Tudalen 3. Cyrchwyd ar 24 Ebrill 2009.
  4. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007)
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]