Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Adam Matthews (ganwyd Adam James Matthews 13 Ionawr 1992). Mae'n chwarae i Sunderland yn Uwchgynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.

Adam Matthews

Matthews yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnAdam James Matthews[1]
Dyddiad geni (1992-01-13) 13 Ionawr 1992 (32 oed)
Man geniAbertawe, Cymru
Taldra1.78m
SafleAmddiffynnwr
Y Clwb
Clwb presennolSunderland
Gyrfa Ieuenctid
2000–2009Dinas Caerdydd
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2009–2011Dinas Caerdydd41(1)
2011–2015Celtic101(4)
2015–Sunderland2(0)
2015–Bristol City (benthyg)0(0)
Tîm Cenedlaethol
2008–2009Cymru dan 179(0)
2008–2011Cymru dan 195(1)
2009–2013Cymru dan 216(0)
2011–Cymru12(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 24 Mai 2015.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 10 Medi 2013

Gyrfa clwb golygu

Caerdydd golygu

Fel bachgen ifanc, roedd Matthews yn chwaraewr rygbi amryddawn yn ogystala denu sylw clybiau pêl-droed[2]. Roedd yn ymarfer yn rheolaidd gydag Academi Dinas Abertawe ond ar ôl torri ei fraich, collodd y cyfle i ymuno â'r Swans ac ymunodd gyda Chaerdydd pan yn wyth mlwydd oed[3].

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gaerdydd ar 15 Awst 2009 mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Blackpool[4].

Celtic golygu

Ym mis Chwefror 2011 cyhoedd Celtic eu bod wedi cytuno i arwyddo Matthews yn ystod yr haf 2011 yn rhad ac am ddim[5]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Aberdeen ar 7 Awst[6] cyn chwarae ei gêm Ewropeaidd cyntaf yn erbyn Atlético Madrid ar 15 Medi 2011[7].

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr i Celtic yn erbyn HJK Helsinki ar 1 Awst 2012[8].

Sunderland golygu

Ar 3 Gorffennaf 2015, ymunodd Matthews â Sunderland ar gytundeb pedair blynedd am ffi o £2 miliwn.[9] Ar ôl cyfnod wedi ei anafu ac ar ôl dim ond dau ymddangosiad i Sunderland, ymunodd Mathews â Bristol City ar fenthyg ar 7 Mawrth 2016.[10]

Gyrfa ryngwladol golygu

Chwaraeodd Matthews i dimau dan-17, dan-19 a dan-21 Cymru a chafodd ei gap llawn cyntaf dros Gymru fel eilydd yn erbyn Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban yng nghystadleuaeth y Cwpan Celtaidd yn Nulyn ar 25 Mai 2011[11].

Cafodd Matthews wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2012.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Search 1984 to 2006 – Birth, Marriage and Death indexes". Findmypast.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-02. Cyrchwyd 2014-08-30.
  2. "Matthews happy with his Cardiff City decision". 2008-08-29. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Brown caps off an eventful week at Ninian". 2008-01-22. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Blackpool 1-1 Cardiff City". 2009-08-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Cardiff full-back Matthews signs pre-contract at Celtic". 2011-02-25. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Adam Matthews: Having pal Joe Ledley at Celtic has helped me settle quickly". 2011-08-12. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Atletico Madrid v Celtic as it happened". 2011-09-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Celtic2-1HJK Helsinki". 2012-08-01. Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Sunderland sign Welsh international". Sunderland A.F.C. 2015-07-03 July 2015. Check date values in: |date= (help)
  10. "Cefnwr Cymru yn symud i Fryste". Golwg360. Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "WelshFootballOnline: Wales 1-3 Scotland published=Welsh Football Online". 2011-05-21.
  12. "Sgorio: Joe Allen yw chwaraewr y flwyddyn". 2012-10-09. Unknown parameter |published= ignored (help)