Aelod-wladwriaethau NATO

Cynghrair milwrol sydd yn cynnwys 32 o aelod-wladwriaethau o Ogledd America ac Ewrop yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Y ddwy aelod o Ogledd America yw Canada a'r Unol Daleithiau. Mae gan bob un o'r aelodau luoedd milwrol, er nad oes gan Wlad yr Iâ fyddin arferol (ond mae ganddi gwylwyr y glannau milwrol ac uned fechan o filwyr ar gyfer ymgyrchoedd i gadw'r heddwch). Mae gan dri o aelodau NATO arfau niwclear: Ffrainc, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau.

Aelod-wladwriaethau NATO
Aelodau NATO (mewn glas).
Enghraifft o'r canlynolcollective Edit this on Wikidata
Mathaelod-wladwriaeth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nato.int/cps/en/natohq/nato_countries.htm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llinell amser o ymaelodaethau gwledydd NATO. Dynodir gwledydd oedd yn aelodau NATO yn barod ar y pryd gan las tywyll. Dynodir aelodau newydd gan las golau.

Aelod-wladwriaethau yn ôl dyddiad eu hymaelodaeth golygu

Dyddiad Gwlad Ehangiad Nodiadau
4 Ebrill 1949   Gwlad Belg Sefydlwyr
  Canada
  Denmarc Nid yw aelodaeth Denmarc o NATO yn cynnwys Føroyar na'r Ynys Las, yn wahanol i'w haelodaeth yn yr Undeb Ewropeaidd.
  Ffrainc Gadawodd Ffrainc reolaeth filwrol gyfunol NATO ym 1966 i ddilyn system amddiffyn annibynnol ond dychwelodd at aelodaeth lawn ar 4 Ebrill 2009.
  Gwlad yr Iâ Ymunodd Gwlad yr Iâ, yr unig aelod sydd heb fyddin sefydlog, ar yr amod ni fydd rhaid iddi sefydlu un. Er hyn, roedd yn aelod pwysig oherwydd ei leoliad daearyddol strategol yng Nghefnfor yr Iwerydd. Mae ganddi wylwyr y glannau ac yn ddiweddar llu cadw'r heddwch gwirfoddol, a hyfforddir yn Norwy ar gyfer NATO.
  Yr Eidal
  Lwcsembwrg
  Yr Iseldiroedd
  Norwy
  Portiwgal
  Y Deyrnas Unedig
  Unol Daleithiau America
18 Chwefror 1952   Groeg Cyntaf Tynodd Gwlad Groeg ei luoedd yn ôl o strwythur rheolaeth filwrol NATO rhwng 1974 a 1980 o ganlyniad i densiynau rhyngddi a Thwrci yn sgîl goresgyniad Cyprus gan Dwrci ym 1974.
  Twrci
9 Mai 1955   Yr Almaen Ail Ymaelododd fel Gorllewin yr Almaen; adunodd â Saarland ym 1957 a thiriogaethau Berlin a'r cyn-Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR) ar 3 Hydref 1990. Roedd y DDR yn aelod o Gytundeb Warsaw, 1956-1990.
30 Mai 1982   Sbaen Trydydd
12 Mawrth 1999   Tsiecia Pedwerydd Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia.
  Hwngari Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
  Gwlad Pwyl Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
29 Mawrth 2004   Bwlgaria Pumed Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
  Estonia Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
  Latfia Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
  Lithwania Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd.
  Rwmania Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991.
  Slofacia Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia.
  Slofenia Cyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol)
1 Ebrill 2009   Albania Chweched Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1968.
  Croatia Cyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol)
5 Mehefin 2017   Montenegro Seithfed Cyn-weriniaeth Iwgoslafia
27 Mawrth 2020   Gogledd Macedonia Wythfed Cyn-weriniaeth Iwgoslafia
4 Ebrill 2023   Y Ffindir Nawfed
7 Mawrth 2024   Sweden Degfed

Gweler hefyd golygu