Afaon fab Taliesin

Yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, gŵr ifanc doeth a gysylltir â chanu gwirebol oedd Afaon fab Taliesin. Yn ôl traddodiad roedd yn fab i'r bardd enwog Taliesin (6g), ond nid oes unrhyw brawf hanesyddol am hynny ac mae'n fwy tebyg iddo berthyn i gylch y chwedlau am y Taliesin chwedlonol, Taliesin Ben Beirdd. Mae'r amrywiadau ar ei enw yn cynnwys y ffurf Addaon fab Taliesin.

Cyfeirir at Afaon yn y chwedl fwrlesg Gymraeg Canol Breuddwyd Rhonabwy fel un o farchogion llys Arthur a'r "gŵr ifanc doethaf a mwyaf dysgedig yn y deyrnas". Ceir cyfeiriad moel ato mewn cerdd a gedwir yn Llyfr Taliesin yn ogystal. Priodolir iddo gyfresi o englynion doethineb dan yr enw 'Cyssul Afaon/Addaon' ("Cyngor Afaon") mewn sawl llawysgrif.

Cyfeirir at Afaon mewn tri o Drioedd Ynys Prydain. Roedd yn un o 'Dri Tharw Unben' yr ynys, gydag Elinwy fab Cadegr a Chynhafal fab Argad (Triawd 7). Fe'i enwir yn un o 'Dri Aerfeddawg' (arweinwyr brwydr) yr ynys gyda Selyf fab Cynan Garwyn ac Urien fab Cynfarch (Triawd 25). Rhestrir ei lofruddio gan arwr anhysbys o'r enw Llawgad Trwm Bargawd Eidyn fel un o 'Dri Anfad Gyflafan Ynys Brydain'.

Ffynhonnell golygu

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd 1991)