Mae afiechyd Addison, a elwir hefyd yn annigonedd uwcharennol sylfaenol neu hypocortisolism, yn anhwylder endocrinaidd hirdymor lle nad yw'r chwarennau adrenal yn cynhyrchu digon o hormonau steroid. Yn gyffredinol, mae symptomau'n datblygu'n raddol ac mae'n bosib y byddant yn cynnwys poen yn yr abdomen, gwendid corfforol a gostyngiad mewn pwysau. Gall y cyflwr tywyllu'r croen mewn rhai ardaloedd hefyd. Mae modd i argyfwng adrenal achosi pwysedd gwaed isel, chwydu, poen yn y cefn, ac anymwybyddiaeth. Achosir argyfwng adrenal gan straen cyffredinol, yn deillio o anaf, llawdriniaeth neu haint er enghraifft.

Afiechyd Addison
Enghraifft o'r canlynoldesignated intractable/rare disease, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathadrenal cortical hypofunction, endocrine system disease, clefyd y system atgynhyrchu benywaidd, clefyd yr arennau, clefyd system atgenhedlu dynion, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolEndocrinoleg edit this on wikidata
SymptomauBlinder meddwl, anorecsia, gwendid cyhyrau, colli pwysau, poen yn yr abdomen edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Deillia clefyd Addison o broblemau yn y chwarren adrenal, fel na chynhyrchir digon o'r hormonau steroid cortisol ac aldosteron, yn fwy aml na pheidio achosir y fath ddirywiad gan system imiwnedd corfforol isel yn y byd datblygedig, ac yn aml twbercwlosis yn y byd datblygol.[1] Ymhlith yr achosion eraill y ceir rhai meddyginiaethau, madredd, a gwaedu i'r chwarennau adrenal. Achosir annigonolrwydd adrenal eilaidd gan ddiffyg hormon adrenocorticotropic (ACTH) (a gynhyrchir gan y chwarren bitẅidol) neu CRH (a gynhyrchwyd gan y hypothalamws). Er gwaethaf y gwahaniaeth rhyngddynt, gall argyfyngau adrenal ddigwydd ym mhob math o annigonolrwydd adrenal. Yn gyffredinol, caiff clefyd Addison ei diagnosio gan brofion gwaed, profion dwr, a delweddu meddygol.

Wrth drin y cyflwr rhaid ailosod yr hormonau absennol. Hynny yw, cymryd corticosteroid megis hydrocortisone a fludrocortisone.[2] Cymerir y meddyginiaethau uchod fel arfer drwy'r geg. Mae gofyn cynnal therapïau ailosod steroid yn gyson, ac yn aml drwy gydol oes y dioddefwr, a chynhelir triniaethau dilynol rheolaidd ynghyd â rhaglen monitro problemau iechyd eraill. Gall diet yn cynnwys lefelau uchel o halen fod yn effeithiol mewn rhai achosion hefyd. Os gwaethyga symptomau, argymhellir chwistrellu orticosteroid i system y dioddefwr ac fe'i hanogir i gludo dos gyda hwy. Mewn llawer o achosion mae gofyn chwistrelli llawer o hylifau'n cynnwys siwgr decstros. Heb driniaeth, gall argyfwng adrenal arwain at farwolaeth.

Mae clefyd Addison yn effeithio ar oddeutu 0.9 i 1.4 ym mhob 10,000 o bobl yn y byd datblygedig.[3] Effeithia merched canol oed yn bennaf. Mae'r cyflwr annigonolrwydd adrenal eilaidd yn fwy cyffredin. Os cynhelir triniaethau, yn fwy aml na pheidio, ceir canlyniadau hir dymor effeithiol. Enwyd y clefyd ar ôl Thomas Addison, a raddiodd o Ysgol Feddygol Prifysgol Caeredin, ef oedd y cyntaf i ddisgrifio'r cyflwr ym 1855. Defnyddir yr ansoddair "addisonaidd" i ddisgrifio rhai o nodweddion y cyflwr, yn ogystal â phobl â chlefyd Addison.

Cyfeiriadau golygu

  1. Adam, Andy (2014). Grainger & Allison's Diagnostic Radiology (arg. 6). Elsevier Health Sciences. t. 1031. ISBN 9780702061288. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-14. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Napier, C; Pearce, SH (June 2014). "Current and emerging therapies for Addison's disease.". Current Opinion in Endocrinology, Diabetes and Obesity 21 (3): 147–53. doi:10.1097/med.0000000000000067. PMID 24755997.
  3. Brandão Neto, RA; de Carvalho, JF (2014). "Diagnosis and classification of Addison's disease (autoimmune adrenalitis).". Autoimmunity reviews 13 (4-5): 408–11. doi:10.1016/j.autrev.2014.01.025. PMID 24424183.