Planhigyn yw'r afocado (Persea americana), a chredir iddo darddu o Dde Canolbarth Mecsico.[1][2] Mae'n aelod o deulu'r planhigion blodeuol Lauraceae.[3] Mae ffrwyth y planhigyn, hefyd yn cael ei alw'n afocado (neu gellygen afocado neu gellygen aligator), yn fotanegol yn fwyaren fawr sy'n cynnwys hedyn a elwir yn "garreg".[4]

Afocado
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Mathuseful plant Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonPersea Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 16. CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae afocados yn werthfawr yn fasnachol ac yn cael eu tyfu ledled y byd mewn hinsawdd trofannol a Chanoldirol. Mae gan y ffrwyth groen gwyrdd a siap gellygen, wy neu sffer. Maen nhw'n aeddfedu ar ol eu cynaeafu. Mae coed afocado yn peillio eu hunain yn rhannol.

Daw'r gair "afocado" o'r Sbaeneg aguacate, sydd yn ei dro yn dod o'r gair Nahwatleg āhuacatl [aːˈwakat͡ɬ],[5] sy'n mynd yn ôl i'r proto-Astecaidd *pa:wa a oedd hefyd yn golygu "afocado".[6] Weithiau roedd y gair Nahwatleg yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at "gaill", oherwydd y tebygrwydd rhwng y ffrwyth a'r rhan honno o'r corff, siwr o fod.[7]

Ffrwyth afocado wedi'i dorri yn ei hanner

Cyfeiriadau golygu

  1. "What's in a name?". University of California. Cyrchwyd March 27, 2016.
  2. Chen, H; Morrell, P. L; Ashworth, V. E. T. M; de la Cruz, M; Clegg, M. T (2008). "Tracing the Geographic Origins of Major Avocado Cultivars". Journal of Heredity 100 (1): 56–65. doi:10.1093/jhered/esn068. PMID 18779226.
  3. Morton JF (1987). "Avocado; In: Fruits of Warm Climates". Creative Resource Systems, Inc., Winterville, NC and Center for New Crops & Plant Products, Department of Horticulture and Landscape Architecture, Purdue University, West Lafayette, IN. tt. 91–102. ISBN 0-9610184-1-0.
  4. Storey, W. B. (1973). "What kind of fruit is the avocado?". California Avocado Society 1973–74 Yearbook 57: 70–71. http://ucavo.ucr.edu/General/FruitBerry.html.
  5. Nahuatl Dictionary/Diccionario del náhuatl Archifwyd 2016-12-03 yn y Peiriant Wayback.. Whp.uoregon.edu. Retrieved on 2013-07-25.
  6. Dakin, Karen (1982). La evolución fonológica del Protonáhuatl (yn Sbaeneg). México D.F.: Universidad Nacional Autónoma de México, Instituto de Investigaciones Filológicas. t. 210. ISBN 968-5802-92-0. OCLC 10216962.
  7. "Online Etymology Dictionary". Etymonline.com. Cyrchwyd 2014-02-01.