Afon yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Aber neu Afon Abergwyngregyn, hefyd Afon Rhaeadr-fawr. Mae'r afon yn adnabyddus yn bennaf fel yr afon fynyddig sy'n disgyn dros graig uchel i ffurfio'r Rhaeadr Fawr.

Afon Aber
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawRhaeadr Fawr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.242°N 4.027°W Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yma yn newid ei henw sawl gwaith yn ystod ei chwrs cymharol fyr. Tardda fel Afon Goch, ar lethrau Foel Fras yn y Carneddau. Wedi llifo tua'r de rhwng Llwytmor a'r Bera Mawr, mae'n disgyn dros Raeadr Aber, ac oddi yno yn newid ei henw i Afon Rhaeadr-fawr. Ymuna Afon Rhaeadr-bach a hi fymryn islaw y rhaeadr. Llifa i lawr trwy warchodfa Coedydd Aber, lle mae Afon Anafon yn ymuno â hi. Ger Bont Newydd, y bont dros yr afon ar y ffordd gefn o Abergwyngregyn, mae'n newid ei henw eto i Afon Aber. Cyrhaedda'r môr ar Draeth Lafan ger Abergwyngregyn.

Afon Goch: rhan uchaf Afon Aber
Diwedd y daith: aber Afon Aber

Mae cryn dipyn o wahaniaeth barn ynglŷn â'r enwau; cred rhai fod yr Afon Goch yn newid ei henw i Afon Rhaeadr-fawr yn syth islaw'r rhaeadr, ac mai dim ond yn is i lawr, wedi i Afon Anafon ymuno â hi y dylid ei galw yn Afon Aber.