Mae basn Afon Columbia yn 259,000 o filltiroedd sgwâr, yn cynnwys rhannau'r taleithiau Oregon, Washington, Idaho, Montana, Nevada, Wyoming a Utah ac yn estyn ar draws y ffin i Ganada. Mae'n llifo dros 1,200 o filltiroedd o Golumbia Brydeinig ac yn cyrraedd y Cefnfor Tawel rhwng Astoria, Oregon ac Ilwaco, Washington[1].

Afon Columbia
Mathafon, y brif ffrwd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlColumbia Rediviva Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBritish Columbia, Washington, Oregon Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Baner UDA UDA
Uwch y môr406 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.2167°N 115.85°W, 46.2442°N 124.0569°W Edit this on Wikidata
TarddiadColumbia Lake Edit this on Wikidata
AberY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Kootenay, Afon Pend Oreille, Afon Spokane, Afon Snake, Afon Deschutes, Afon Willamette, Afon Okanogan, Afon Yakima, Afon Cowlitz, Afon Kettle, Afon Canoe, Afon Illecillewaet, Afon Templeton, Afon Hood, Afon Lewis and Clark, Afon Lewis, Afon Kicking Horse, Afon Sandy, Afon John Day, Afon Wenatchee, Afon Skipanon, Crab Creek, Afon Walla Walla, Afon Entiat, Afon Grays, Afon Klickitat, Afon Methow, Afon Spillimacheen, Afon White Salmon, Afon Course of the Willamette, Afon Coweeman, Eagle Creek, Elochoman Slough, Afon John Day, Afon Kalama, Multnomah Channel, Afon Umatilla, Afon Washougal, Willow Creek, Lodge Creek, Chenoweth Creek, Sisson Creek, Deep River, Bugaboo Creek, Rock Creek, Crooked Creek, Hitchcock Creek, Harlows Creek, Skamokawa Creek, Foster Creek, Dry Creek, Sanderson Creek, Moses Creek, School Creek, China Creek, Duncan Creek, Abernethy Creek, Eightmile Creek, Fivemile Creek, Fivemile Creek, Rock Creek, Birnie Creek, Bernie Slough, Cougar Creek, Abe Creek, Mill Creek, Afon Little White Salmon, Squilchuck Creek Edit this on Wikidata
Dalgylch668,217 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,000 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad7,500 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddWindermere Lake, Kinbasket Lake, Arrow Lakes, Rufus Woods Lake Edit this on Wikidata
Map
Pont dros yr afon yn Kennewick

Tarddiad yr afon yw Llyn Columbia yng Ngholumbia Brydeinig[2], 2,650 troedfedd uwchben y môr. Mae'r afon yn llifo i'r gogledd am 200 milltir cyn iddi droi i'r De ac yn croesi'r ffin i'r Unol Daleithiau. Mae'n uno efo Afon Snake ar ôl y tair dinas Pasco, Kennewick a Richland. Wedyn mae'r afon yn llifo i'r gorllewin i'w aber. Mae'r afon yn fwy dwfn rhwng Ebrill a Medi, oherwydd dŵr tawdd[3].

Mae gan yr afon 10 prif is-afon, Kootenay, Okanagan, Wenatchee, Spokane, Yakima, Snake, Deschutes, Willamette, Cowlitz a Lewis. Mae'r afon yn mynd trwy Mynyddoedd Cascades, cyn cyrraedd y cefnfor, yn creu Dyfnaint Columbia. Mae 11 argae ar yr afon, a mwy 'na 400 dros y basn i gyd, yn creu mwy 'na 21 miliwn cilowat. Yr un cyntaf yw Argae Ynys Rock. Ychwanegwyd Argae Bonneville ym 1938 ac Argae Grand Coulee ym 1941.

Roedd pysgota'n bwysig i'r ardal rhwng 1860 a 1960, ond oherwydd argaeau, pysgota yn y cefnfor a dirywiaeth i gynefin, mae niferoedd pysgod wedi gostwng yn sylweddol. Mae deorfeydd wedi dod yn bwysig.

Oherwydd sianel 40 troedfedd o ddyfnder ar hyd yr afon is, a llynnau newydd yn uwch, gall llongau gyrraedd Portland, Oregon ac mae cychod camlas mawr yn gyffredin ar yr afon.

Mae dyfrhad wedi bod yn bwysig ers y 1920au ac wedi bod yn bwysicach byth ers adaeladu'r argaeau mawrion. Sefydlwyd Prosiect y Basn Columbia ym 1948; mae gorsafoedd pwmpio a rhwydwaith o gamlesi yn cludo dŵr i fwy 'na 600 mil o aceri o dir yn Dalaith Washington. Mae cnydau'n cynnwys alfalfa, taten, mintys, betys, fa, ffrwyth a grawnwin. Dechreuodd twristiaeth cyn gynted a'r 1920au gyda theithiau cychod ar yr afon, a physgota. Erbyn y 1980au, roedd bordhwylio ayn boblogaidd. Daeth Dyfnaint yn ardal hyfrydwch genedlaethol ym 1986 [3]. Enw brodorol yr afon yw N'chi a wana[2],.

Hanes golygu

Mae pobl wedi byw ar lannau'r afon ers mwy 'na 10,000 o flynyddoedd. Ar y dechrau, roeddent yn gymdeithas hela, pysgota a chasglu. Roedd tai hir ar lannau'r darn isaf yr afon. Mewn ardaloedd eraill, buasai pobl yn symud yn dymhorol. Roedd pysgota'n bwysig iawn, ac y lle prysuach oedd Rhaeadr Celio. Ymddangosodd yr afon ar fapiau yn ystod yr 17g gyda'r enw ' River of the West' ar ôl ei darganfyddiad gan Martin de Auguilar. Tybiwyd bod hi'n arwain at Dramwyfa'r Gogledd-Orllewin. Enwyd yr afon 'Ouragon' gan Robert Rogers ym 1765, ac wedyn 'Oregon' ym 1778. Aeth William Broughton dros 100 milltir i fyny'r afon ym mis Hydref 1792, a chreodd map cyntaf y rhan hon o'r afon. Daeth Meriwether Lewis a William Clark i lawr yr afon rhwng 1805-6, a chrëwyd y map cyflawn cyntaf o'r afon gan David Thompson rhwng 1811-12. Ar ôl Rhyfel 1812, rhannwyd basn y Columbia rhwng yr Unol Daleithiau a Phrydain.

Cymerodd Cwmni Bae Hudson lle blaenllaw yn yr ardal, a sefydlwyd pencadlys yn Fort Vancouver ym 1825. Cludwyd crwyn o'r fan yno i Brydain. Daeth Americanwyr i'r ardal ar Llwybr Oregon|lwybr Oregon]] yn yr 1840au a daeth Oregon i'r de o'r 49ain cydrediad lledredol yn rhan o'r Unol Daleithiau. Adeiladwyd Lociau Cascades ym 1896 a Lociau Celilo-Y Dalles ym 1915 [3].

 

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Hanes afon Columbia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-08. Cyrchwyd 2015-03-04.
  2. 2.0 2.1 Gwefan Spokane Outdoors
  3. 3.0 3.1 3.2 "Gwefan hanes afon Columbia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-08. Cyrchwyd 2015-03-04.