Afon Dee (Swydd Aberdeen)

Afon yn Swydd Aberdeen, gogledd-ddwyrain yr Alban, yw Afon Dee (Gaeleg yr Alban: Uisge Dè).[1] Mae'n tarddu yn y Cairngorms ac yn llifo trwy Royal Deeside i gyrraedd Môr y Gogledd yn Aberdeen. Ei hyd yw 90 milltir.

Afon Dee
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Aberdeen, Dinas Aberdeen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau57.142332°N 2.06716°W Edit this on Wikidata
AberMôr y Gogledd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Quoich Edit this on Wikidata
Dalgylch2,100 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd154 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Am afonydd eraill o'r un enw, gweler Afon Dee.

Mae'r afon yn tarddu 4000 troedfedd i fyny ar lwyfandir Braeriach. Mae afonydd eraill yn llifo iddi yn Lairig Ghru ac mae'n rhedeg rhwng mynyddoedd uchel Ben Macdui a Cairn Toul. Yn y Linn of Dee mae'r llifo trwy geunant naturiol 300m. Yn ardal "Glannau Dee Brenhinol" rhed yr afon heibio i bentrefi a threfi Braemar, Ballater, Aboyne a Banchory.

Cyn cyrraedd Môr y Gogledd, mae Afon Dee yn llifo trwy harbwr Aberdeen. Cloddiwyd sianel artiffisial yno yn 1872, i wella'r harbwr.

Afon Dee ger Braemar

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-04-30 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 30 Ebrill 2022