Afon Derwent (Cumbria)

afon yn Cumbria

Afon yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Afon Derwent.

Afon Derwent
Mathafon Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolCumbria
Daearyddiaeth
LleoliadArdal y Llynnoedd, Lloegr Edit this on Wikidata
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.6494°N 3.5689°W Edit this on Wikidata
TarddiadStyhead Tarn Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Cocker, Afon Greta, Cumbria, Afon Marron Edit this on Wikidata
LlynnoeddDerwentwater Edit this on Wikidata
Map
Peidiwch â chymysgu'r afon hon â'r tair afon arall o'r un enw yng ngogledd Lloegr. Am yr afonydd eraill, gweler Afon Derwent.

Mae'n tarddu yn Sprinkling Tarn oddi tan Scafell Pike yn Ardal y Llynnoedd cyn llifo i'r gogledd trwy Borrowdale, lle mae'n lledu i ffurfio llyn, sef Derwentwater. Wedyn mae'n llifo i'r gogledd eto heibio tref Keswick lle mae Afon Greta yn ymuno â hi. Mae'n mynd i mewn i Llyn Bassenthwaite o'r de ac yn ei adael o'r gogledd cyn iddi lifo i'r gorllewin tuag at dref Cockermouth, lle mae Afon Cocker yn ymuno â hi. Ar ôl hynny, mae'n mynd ymlaen i'r gorllewin heibio pentref Papcastle i'w aber yn nhref Workington, lle mae'n llifo i mewn i Fôr Iwerddon.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.