Afon Drava

afon yn Eidal, Awstria, Slofenia, Croatia, Hwngari

Mae'r afon Drava neu afon Drafa yn ôl yr orgraff Gymraeg (Almaeneg: Drau, Hwngareg: Dráva) yn afon bwysig yn ne-ddwyrain Ewrop ac yn un o'r afonydd pwysicaf sy'n bwydo fewn i'r afon Donaw wrth iddi lifo tua'r dwyrain i'r Môr Du.

Drava
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwladyr Eidal, Croatia, Awstria, Slofenia, Hwngari Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.722469°N 12.252989°E, 45.5439°N 18.9267°E Edit this on Wikidata
TarddiadInnichen Edit this on Wikidata
AberAfon Donaw Edit this on Wikidata
LlednentyddIsel, Möll, Lieser, Gurk, Lavant, Mur, Gail, Vellach, Meža, Sextner Bach, Dravinja, Rinya-patak, Bednja, Pesnica, Karašica, Gailbach, Seebach, Villgratenbach, Debantbach, Fekete-víz, Grajena, Rogoznica, Žitečki potok, Blažovnica, Bistrica, Kolberbach, Wölfnitzbach Edit this on Wikidata
Dalgylch40,400 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd720 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad620 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddFeistritzer Stausee, Ferlacher Stausee, Völkermarkter Stausee, Llyn Ptuj, Lake Ormož, Lake Varaždin, Llyn Dubrava Edit this on Wikidata
Map
Y Drafa ger Rosental yn Carinthia (Kärnten), Awstria

Hyd yr afon yw 720 km,[1] maint basn yr afon yw 40,400 km² (dwy waith maint Cymru) ac mae cymeriant o'r afon yn 610 m³ / s.

Cwrs yr Afon golygu

Mae'r Drafa yn llifo trwy diriogaeth yr Eidal, Awstria, Slofenia, Croatia a Hwngari (gan ffurfio ei ffin ddeheuol).

Mae ffynhonnell y Drava yn yr Eidal, yn Alpau Carnic. Mae'r cymer, lle mae'r afon yn llifo i'r Donaw, yn Croatia, ger dinas Osijek.

Mae'r afon yn fordadwy am 650 km o ddinas Villach yn Awstria i'r cymer yn Croatia.

Isafonydd golygu

Ceir sawl isafon sylweddol i'r Drava gan gynnwys y Gail (Awstria) (ar y dde); Gurk (Awstria), Mura (Croatia) (chwith). Y llednant fwyaf yw'r Mura.

Mae dinasoedd ar yr afon golygu

Awstria - Lienz, Spittal der Drau, Villach, Ferlach
Slofenia - Dravograd, Rushe, Maribor, Ptuj, Ormozh
Croatia - Varazdin, Osijek

Drwy gydol rhan helaeth o'i daith, mae'r Drava yn gweithredu fel y ffin rhwng Hwngari a Croatia. Mae rhannau ar wahân o'r afon a'r lan o'r ochr Hwngari yn cael eu diogelu dan warchodaeth ac maent yn rhan o Barc Cenedlaethol Donaw-Drafa.

Hanes golygu

 
Banovinau Teyrnas Iwgoslafia, 1929-1941

Ceir sôn am yr afon gan y milwr a'r hanesydd Rufeinig, Plinius yr Hynaf fel Draus. Gweler Sanskrit द्रवति, dravati("rhedeg", "llif"). Cyfeirir at yr afon fel 'Dravus gan y Rhufeinwr Sextus Rufus, ac fel Drabos gan yr hanesydd Rhufeinig arall, Strabo.[2] Mae'r geiriau topgraffegol, Dravit, yr Ambidravi yn ogystal â nifer o enwau lleoedd a meysydd yn cael eu henwi ar ôl y Drava.

Enwyd Banovina (rhanbarth) Drava yn ystod cyfnod Teyrnas Iwgoslafia ar ôl yr afon rhwng 1929 ac 1941. Roedd y rhanbarth yn dilyn, fwy neu lai, ffiniau y tirigoaeth Slofenia gyfoes (gan hepgor y tir oedd wedi ei reoli gan yr Eidal ar y pryd.

Oriel golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Joint Drava River Corridor Analysis Report Archifwyd 2016-06-10 yn y Peiriant Wayback., 27 November 2014
  2. Egon Kühebacher (yn German), Die Ortsnamen Südtirols und ihre Geschichte, 2: Die geschichtlich gewachsenen Namen der Täler, Flüsse, Bäche und Seen, Bozen: Verlagsanstalt Athesia, pp. 51, ISBN 88-7014-827-0