Afon Eden (Gwynedd)

afon yng Ngwynedd, Cymru

Afon yn ne Gwynedd sy'n llifo i afon Mawddach yw Afon Eden.

Afon Eden (Gwynedd)
Afon Eden ger Coed y Brenin
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr161 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.801°N 3.888°W, 52.8°N 3.9°W Edit this on Wikidata
AberAfon Mawddach Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am yr afon yng Ngwynedd yw hon. Am afonydd eraill o'r un enw, gweler Afon Eden. Ceir hefyd Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd, sef Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae'r afon yn tarddu i'r gorllewin o bentref Bronaber, lle mae nifer o nentydd oddi ar lechweddau dwyreiniol Moel Ysgyfarnogod ac i'r de o Lyn Trawsfynydd yn cyfarfod. Llifa tua'r de, trwy Goed y Brenin, ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A470 ar y cychwyn. Mae'r A470 yn ei chroesi dros Bont Dol-gefeiliau; llifa'r afon wedyn ger ochr ddwyreiniol y briffordd hyd nes ymuno ag afon Mawddach gerllaw Pont ar Eden, fymryn i'r gogledd o bentref Ganllwyd.

Enwau golygu

  • Glan llynnau duon

Black Pools on Eden Glanllynauduon, nid nepell o Bronaber, Trawsfynydd'[1]

Cadwraeth golygu

Gyda Chors Goch Trawsfynydd, mae Afon Eden yn Ardal Gadwraeth Arbennig a adnabyddir fel Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhys Llywelyn (pysgotwr lleol); sylw ar Facebook[1]
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato