Afon yn yr Ariannin yw Afon Gallegos (Sbaeneg: Río Gallegos), sy'n llifo trwy Dalaith Santa Cruz, Patagonia. Gorwedd dinas Río Gallegos, prifddinas Talaith Santa Cruz, ar y llecyn lle mae'n aberu yng Nghefnfor yr Iwerydd.

Afon Gallegos
Mathafon Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBlasco Gallegos Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwladyr Ariannin Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8961°S 71.5944°W, 51.598867°S 68.974666°W Edit this on Wikidata
AberCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Dalgylch9,554 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd300 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad15 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Ffurfir yr afon gan gymer afonydd Rubens a Penitentes, ac mae'n llifo i gyfeiriad y dwyrain am 180 kilometres (112 milltir) i gyrraedd glan yr Iwerydd.

Enwir yr afon ar ôl Blasco Gallegos, un o beilotiaid Ferdinand Magellan yn 1520.