Afon yn Sir Benfro, de-orllewin Cymru, yw Afon Gwaun. Ei hyd yw tua 10 milltir (15 km).

Afon Gwaun
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52°N 5°W Edit this on Wikidata
AberCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd tarddle'r afon ar lethrau gorllewinol bryniau Preseli, heb fod ymhell o bentref bychan Tafarn-y-bwlch a Foel Eryr (1535'). Mae'n llifo oddi yno i gyfeiriad y gorllewin, heibio i bentrefi Cwm Gwaun, Y Bont Faen, a Llanychâr. Mae'n cyrraedd y môr yn Abergwaun gan lifo i Fae Abergwaun, sy'n rhan o Fae Ceredigion. Mae'r aber yn ffurfio porthladd pwysig gyda llongau fferi yn hwylio oddi yno i Rosslare yn Iwerddon.

Yn yr Oesoedd Canol dynodai'r afon y ffin rhwng cantrefi Cemais a Pebidiog.

Golygfa ar lan Afon Gwaun, ger Abergwaun
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato