Afon yn y Dwyrain Canol yw Afon Iorddonen. Mae'n 360 km o hyd, ac yn llifo trwy Libanus ac Israel/Palesteina, gan ffurfio'r ffîn rhwng Israel a Gwlad Iorddonen, yna'r ffîn rhwng Gwlad Iorddonen a'r Lan Orllewinol, sydd ar hyn o bryd ym meddiant Israel, cyn llifo i mewn i'r Môr Marw.

Afon Iorddonen
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladLibanus, Syria, Palesteina, Gwladwriaeth Palesteina, Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,814 metr, −416 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.1867°N 35.6192°E, 31.7614°N 35.5583°E Edit this on Wikidata
TarddiadUcheldiroedd Golan, Sde Nehemia Edit this on Wikidata
AberMôr Marw Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Yarmouk, Afon Zarqa, Wadi al-Far'a, Wadi Qelt, Afon Dan, Harod stream, Banyas, Afon Hasbani, Nachal Bezek, Nachal Dišon, Nachal Milcha, Nachal Anin, Nachal Avuka, Hagal Stream, Nachal Došen, Naẖal Menẖemya, Nachal Minta, Nachal ha-Jadid, Yavneel stream, Nahal Tavor, Fatzael Stream, Naẖal Yissakhar, Q3334483, Nachal Orvim, Q6571692, Q6580259, Q112634246, Q112634333, Q6794113, Q112634512, Gilbon River, Nahal Mahanayim, Nahal Rosh Pina, Q112634743, Q112634752, Wadi Auja, Q117805470 Edit this on Wikidata
Dalgylch18,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd252 cilometr Edit this on Wikidata
LlynnoeddMôr Galilea Edit this on Wikidata
Map

Mae tarddiad yr afon ym mynyddoedd Antilibanus, ar lechweddau Mynydd Hermon yn Libanus. Daw ei dŵr o dair ffynhonnell: glawogydd (yn bennaf yn y gaeaf), ffynhonnau yn tarddu o geigiau karst mynyddoedd Antilibanus, a'r eira yn meirioli ar lechweddau Mynydd Hermon yn y gwanwyn. Mae'n llifo tua'r de i mewn i Israel, ac yn llifo trwy Fôr Galilea cyn gadael y llyn gerllaw kibbutz Degania, ar ochr ddeheuol y llyn. Mae'n mynd ymlaen tua'r de i lifo i mewn i ran ogleddol y Môr Mawr. Yr unig afon o faint sy'n llifo i mewn iddi yw Afon Yarmuk, sy'n ffurfio rhan o'r ffîn rhwng Gwlad Iorddonen a Syria.

Afon Iorddonen

Ceir nifer fawr o gyfeiriadau ar yr Iorddonen yn y Beibl, ac oherwydd hyn, magodd bwysigrwydd crefyddol mawr. Fe'i defnyddir yn aml mewn delweddau crefyddol; gall "croesi'r Iorddonen" olygu marw ("Ar lan Iorddonen ddofn/Rwy'n oedi'n nychlyd...").