Afon yng ngogledd Ceredigion yw Afon Leri. Mae'n tarddu yn y bryniau ger Pumlumon ac yn aberu yn Afon Dyfi gyferbyn ag Aberdyfi. Ei hyd yw tua 10 milltir.[1]

Afon Leri
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.5199°N 4.0404°W Edit this on Wikidata
AberAfon Dyfi Edit this on Wikidata
Map

Llwybr yr afon golygu

Tarddle'r afon yw Llyn Craigypistyll. Gorwedd y llyn hwnnw 350 metr uwch lefel y môr mewn cwm un filltir i'r de-orllewin o ben gorllewinol cronfa dŵr Nant-y-moch. Llyn artiffisial ydyw a grëwyd trwy godi argae ar afon Leri. Fe'i bwydir gan sawl nant fechan. Mae afon Leri yn llifo o'i ben gorllewinol, trwy'r argae, ac yn disgyn ar gwrs gorllewinol trwy Gwm Leri heibio i bentref bychan Bontgoch. Ar ymyl Tal-y-bont fe'i croesir gan y briffordd A487.[1]

Llifa ymlaen ar gwrs gorllewinol am rai milltiroedd eto trwy ardal Genau'r Glyn i gyffiniau'r Borth. Yma cafodd cwrs naturiol yr afon ei newid trwy greu sianel unionsyth sy'n rhedeg am ryw ddwy filltir o gwr dwyreiniol y Borth ar draws ochr orllewinol gwarchodfa natur Cors Fochno. Cyrraedd yr afon ei haber yn Afon Dyfi gyferbyn ag Aberdyfi.[1] Yma, pan fo'r môr allan, mae'n llifo dros fanc tywod Traeth Maelgwn ('Traeth Maelgwynn' ar y map AO[1]), a enwir ar ôl Maelgwn Gwynedd.

Arferai'r afon lifo i Fae Ceredigion yn Aberleri, ond cafodd ei chwrs ei ddargyfeirio ym 1824 i ddarparu harbwr ar gyfer y diwydiant adeiladu cychod.[2] Ceir iard cychod yn Ynys Tachwedd, ger ei haber.

 
Afon Leri ger Y Borth
 
Aber Leri, Ynys Tachwedd, gyda'r Dyfi ac Aberdyfi yn y cefndir

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Map OS Landranger 135 Aberystwyth.
  2. BBC Wales Archifwyd 13 November 2012 yn y Peiriant Wayback.