Afon yng nghanolbarth Powys sy'n un o lednentydd afon Gwy yw afon Marteg. Mae'n tarddu yn y bryniau i'r de-orllewin o'r Drenewydd ac yn llifo tua'r de-orllewin i ymuno ag afon Gwy.

Afon Marteg
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3303°N 3.5342°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yn casglu ffrydiau ger bryn Rhyddhywel, yn y bryniau, yn agos at darddle afon Ieithon. Llifa tua'r de ac yna tua'r de-orllewin heibio pentrefi Pant-y-dŵr a Sant Harmon i lifo i mewn i Afon Gwy ychydig i'r gogledd o dref Rhaeadr Gwy.

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.