Mae Afon Mawddach yn afon yng ngogledd Cymru sy'n cyrraedd y môr yn Abermaw. Mae rhan olaf ei chwrs yn cynnwys rhai o'r golygfeydd sydd yn atyniad i artistiaid ers y 18g.

Afon Mawddach
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8545°N 3.7539°W Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Eden (Gwynedd) Edit this on Wikidata
Map

Cwrs yr afon golygu

Mae tarddiad Afon Mawddach ychydig i'r gogledd o fynyddoedd Rhobell Fawr a'r Dduallt yng nghorsdir eang Waun-y-griafolen, tua 450m uwchben lefel y môr. Ar ei chwrs troellog o dueddiad gorllewiniol i awr i Ganllwyd mae nifer o ffrydiau llai yn ymuno â hi, megys Nant-yr-Helyg, Afon Bryn-llin-fawr, ac Afon Ceirw ychydig cyn cyrraedd Pont Aber Ceirw. Ar ei chwrs trwy Goed y Brenin mae afon fwy sylweddol, Afon Gain, yn ymuno â hi; ceir ddwy raeadr ger yr aber, sef Pistyll Cain a Rhaeadr Mawddach.

Ar ôl i Afon Eden ymuno â hi mae'r Fawddach yn llifo yn ei blaen tua'r de trwy bentref Ganllwyd, dan gysgod Y Garn, mae'n cyrraedd Llanelltyd. Yno y ceir safle hen gored ar yr afon oedd ar un adeg yn perthyn i Abaty Cymer, hen sefydliad Sistersiaidd a fu'n gefnogol iawn i dywysogion Gwynedd; saif ei adfeilion ar y lan ddwyreiniol. Mae'r afon yn mynd heibio i hen blasdy Hengwrt, cartref y Fychaniaid gynt, noddwyr llên a diwylliant Meirionnydd, cyn ymuno ag Afon Wnion ym Maes y Garnedd.

Ar ran olaf ei thaith mae'n troi tua'r gorllewin i Benmaenpŵl, gan redeg dan yr hen bont doll, lle mae'r aber yn dechrau. Am y pedair milltir olaf mae'r afon yn ymledu'n sylweddol gyda bryniau Cadair Idris i'r de a Llawlech a Diffwys, dau o gopaon Ardudwy, i'r gogledd. Yna mae'n llifo dan bont reilffordd Abermaw i aberu ym Mae Ceredigion.

Ceir pysgota da am Eog a Brithyll yn Afon Mawddach, ac mae ychydig a aur i'w ddarganfod ymysg y graean yn yr afon, er nad oes llawer ar ôl bellach. Mae'n bosibl canwio ar 21 km ohoni.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Canw Cymru", Afon Mawddach (Canw Cymru), http://www.canoewales.com/afon-mawddach.aspx, adalwyd 01/06/2012


Oriel golygu