Afon yng ngogledd-ddwyrain Affrica ac un o'r ddwy afon sy'n ymuno i ffurfio afon Nîl yw Afon Nîl Wen.

Afon Nîl Wen
Pont dros Afon Nîl Wen yn Juba, Swdan
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAfon Nîl Edit this on Wikidata
GwladRwanda, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Swdan, De Swdan, Tansanïa, Wganda Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau0.41522°N 33.19558°E, 15.6236°N 32.5019°E Edit this on Wikidata
TarddiadLlyn Victoria Edit this on Wikidata
AberAfon Nîl Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Bahr el Ghazal, Afon Sobat, Bahr el Zeraf, Achwa, Afon Adar, Afon Kidepo, Afon Ora, Afon Kafu Edit this on Wikidata
Dalgylch1,059,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,620 ±10 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad878 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLlyn Victoria, Llyn Albert, Llyn No Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yma yn dechrau yn Llyn Victoria ar ffiniau Wganda, Cenia a Tansanïa, er bod afonydd o faint sylweddol yn rhedeg i mewn i'r llyn yma ac felly'n rhan o'r un system. Mae'n llifo trwy Lyn Albert ac yna trwy Swdan - o ranbarth De Swdan a'i phrifddinas Juba, i'r gogledd - lle mae'n ymuno a'r Nîl Las ger Khartoum.

Afon Nil Wen sy'n cyfrannu'r rhan fwyaf o'r dwr i Afon Nîl am ran helaeth o'r flwyddyn, heblaw yn yr haf, pan fydd y tymor glawog yn ucheldir Ethiopia a'r Nîl Las yn cyfrannu'r rhan fwyaf o'r dwr.

Dalgylch Afon Nîl Wen