Afon yn nwyrain Lloegr yw Afon Nene. Mae gan yr afon dri tharddiad yn Swydd Northampton. Tarddiad y Nene Daventry yw Bryn Arbury; tarddiad y Brampton Nene yw Naseby, a tharddiad y Nene Yelvertoft yw Yelvertoft. Mae’r tair afon yn uno yn Northampton, lle mae Camlas Grand Union yn ymuno â’r Nene hefyd. Mae’r afon yn llifo o Northampton, trwy Great Gidding, Earls Barton, Wellingborough, Thrapston, Oundle, Peterborough, March, Guyhirn, Wisbech, Sutton Bridge, Tydd Gote a Gedney Drove End cyn llifo i‘r Wash.

Afon Nene
Afon Nene yn Swydd Northampton, a phentref Fotheringhay yn y cefndir
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Northampton Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.5648°N 0.355°W, 52.2318°N 1.2103°W, 52.8214°N 0.2161°E Edit this on Wikidata
AberMôr y Gogledd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Ise Edit this on Wikidata
Dalgylch1,634 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd146 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Gall cychod yn defnyddio’r afon rhwng ei chyffordd gyda Chamlas Grand Union ger Northampton, hyd at y môr 88 milltir i ffwrdd. Mae gan yr afon 38 o lociau.[1] Yn Swydd Northampton, mae’r afon yn llifo o dan Gamlas y Grand Union, rheilffordd yr arfordir gorllewinol a’r M1 a heibio Melin Kislingbury. Mae’n pasio Gwarchodfa Natur Titchmarsh, Rheilffordd Dyffryn Nene ger Wansford, Oundle Marina, Parc Archeologol Flag Fen a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Nene Washes, sydd yn 3,700 erw o wlyptir i’r dwyrain o Peterborough.

Mae sawl isafon, megis Afon Welland ac Afon Witham. Mae’r afon yn cysylltu ag Afon Great Ouse yn Salters Lode. Mae’r afon yna’n rhan o gyfundrefn ddraeniad mawr maint 270 milltir sgwâr. Mae pedair traphont reilffordd yn croeso’r afon, yn Irthlingborough, Thrapston, Wansford a Wellingborough.[2].

Mae’r Goleudy Dwyrain a Goleudy Gorllewin yn sefyll ar lannau’r afon yn nhref Long Sutton. Erbyn hyn, dydy cludiant ddim mor bwysig ar yr afon; mae gweithgareddau awyr agored megis pysgota a hwylio’n bwysicach.[2]

Yr afon ger Wansford, Swydd Gaergrawnt

Cyfeiriadau golygu