Afon yng ngogledd Sir Benfro yw Afon Nyfer. Ei hyd yw tua un filltir ar ddeg.

Afon Nyfer
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0224°N 4.8446°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yn tarddu yn ardal Crymych a llethrau bryn Y Frenni Fawr. Mae'n llifo yn syth i gyfeiriad y gorllewin ar hyd ei chwrs. Yn ei phum milltir cyntaf daw nifer o ffrydiau llai i lawr o fryniau'r Preseli yn y de i ymuno â hi. Mae hi'n llifo rhwng pentrefi Ffynnon-groes ac Eglwyswrw. Am ran olaf ei chwrs mae lôn yr A487 yn rhedeg ar hyd ei glan ogleddol ac yn ei chroesi ger pentref hanesyddol Nyfer (Nanhyfer). Mae'r afon yn aberu ym Mae Ceredigion ger pentref Trefdraeth ac yn llifo i mewn i Fae Trefdraeth.

Yn yr Oesoedd Canol dynodai Afon Nyfer y ffin rhwng dau gwmwd cantref Cemais, sef cymydau Uwch Nyfer ac Is Nyfer.

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato