Afon Ogwen

afon yng Ngwynedd, Cymru

Afon yng ngogledd-orllewin Cymru yw Afon Ogwen (Afon Ogwan ar lafar yn lleol: gweler isod), sy'n tarddu yn Llyn Ogwen ac yn cyrraedd y môr ger Bangor.

Afon Ogwen
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr19 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2333°N 4.0833°W Edit this on Wikidata
Hyd16 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Geirdarddiad golygu

'Ogwen' yw'r ffurf safonol ar yr enw, ond 'Ogwan' a geir ar lafar (cf. Llais Ogwan, papur bro Dyffryn Ogwen). Cafwyd y ffurf safonol 'Ogwen' oherwydd tybiai geiriadurwyr fod 'Ogwan' yn ffurf dafodieithol yn unig, enghraifft o'r arfer ar lafar yng ngogledd Cymru o gael -an yn lle -en. Ond yn ddiweddarach profwyd nad yw hynny yn wir yn yr achos yma ac mai Ogwan yw'r ffurf wreiddiol.[1]

Cofnodir enw'r afon fel Oguanw (sef Ogfanw) mewn cerdd yn Llawysgrif Hendregadredd. Trodd Ogfanw yn *Ogfan (tybiedig) ac Ogwan. Yn ôl pob tebyg mae'r enw yn gyfansoddair o'r elfen ragflaenol Og + yr enw banw (porchell, mochyn ifanc). Mae union ystyr Og yn llai eglur, ond tybir naill ai ei fod yn gytras â'r enw Hen Wyddeleg o(a)c ac yn golygu 'ifanc' (cf. Tír na n-Óg) neu ei fod yn tarddu o'r elfen Indo-Ewropeaidd *oku ("buan, cyflym") a welir yn Gymraeg yn y terfyniad -og yn y gair 'diog', er enghraifft. Felly, yn ôl yr ieithegydd R. J. Thomas, gallai'r enw gwreiddiol Ogfanw olygu "banw neu borchell buan".[2]

Cwrs golygu

 
Ffrydiau Afon Ogwen yn Nant Ffrancon

Mae tarddiad Afon Ogwen yn Llyn Ogwen, gerllaw ffordd yr A5 yn Eryri. Ymysg y nentydd sy'n llifo i mewn i Lyn Ogwen o lethrau Carnedd Dafydd mae Nant Gwern y Gof, Afon Denau, ac Afon Lloer, sy'n tarddu o lyn Ffynnon Lloer yn uchel yn y Carneddau. Gan mai Afon Denau yw'r ffrwd fwyaf, mae modd ei ystyried fel tardd-nant Afon Ogwen.

Yn syth ar ôl gadael ochr orllewinnol Llyn Ogwen, mae Afon Ogwen yn creu Rhaeadr Ogwen wrth ddisgyn dros greigiau cyn cyrraedd tir mwy gwastad a llifo i lawr dyffryn Nant Ffrancon.

Mae'r afon yn llifo heibio tomennydd o sbwriel llechi o Chwarel y Penrhyn ac yna heibio Braichmelyn. Ychydig yn ddiweddarach mae Afon Caseg, sydd hefyd yn tarddu yn y Carneddau, yn llifo i mewn iddi. Mae'n llifo trwy bentref Bethesda lle daw Afon Ffrydlas i aberu ynddi - ac yna ymlaen tua'r gogledd-orllewin gan ddilyn hen drac rheilffordd sydd yn awr wedi ei droi yn Lôn Las Ogwen ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Wedi croesi'r A55 a llifo rhwng Llandygai a Thalybont, mae'r afon yn cyrraedd y môr yn Aberogwen (Aberogwan), ychydig i'r dwyrain o stad y Penrhyn ger Bangor, lle ceir gwarchodfa natur.

Llednentydd golygu

 
Afon Ffrydlas
I'r gorllewin
I'r dwyrain
  • Nant (neu Afon) Gwern y Gof
  • Nant Bochlwyd
  • Nant Cywion
  • Nant Bual
  • Nant Berfedd

Cyfeiriadau golygu

  1. R. J. Thomas, Enwau afonydd a nentydd Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938), tud. 81.
  2. Enwau afonydd a nentydd Cymru, tud. 81.