Afon Ouse (Sussex)

afon yn Sussex, De-ddwyrain Lloegr
(Ailgyfeiriad o Afon Ouse, Sussex)

Afon yn siroedd Gorllewin Sussex a Dwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Afon Ouse. Mae'n tarddu ger Lower Beeding yng Ngorllewin Sussex, ac yn llifo tua'r dwyrain heibio Haywards Heath a thrwy Lewes cyn iddi gyrraedd y môr yn Newhaven. Mae Afon Uck, ei phrif isafon, yn ymuno â hi tua 8 km (5 mi) i'r gogledd o Lewes.

Afon Ouse
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSussex Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.7842°N 0.058°E Edit this on Wikidata
AberMôr Udd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Uck Edit this on Wikidata
Dalgylch1,008 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd46 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad10 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Am afonydd eraill o'r un enw, gweler Afon Ouse.

Am ganrifoedd byddai cychod yn llywio rhannau llanwol yr afon hyd at Lewes, 7 milltir o'r môr. Ar ddiwedd y 18g gwelodd nifer o dirfeddianwyr lleol gyfle i fuddsoddi mewn addasu'r afon i gario cychod camlas i'w rhannau uchaf. Gwnaeth y peiriannydd sifil William Jessop arolwg o'r afon, ac ar ôl cynnydd araf erbyn 1812 roedd yr afon yn fordwyol cyn belled â Balcombe, 22 milltir y tu hwnt i Lewes. Fodd bynnag, ni fu'r cynllun erioed yn llwyddiant mawr, a dyfodiad y rheilffordd oedd yr ergyd olaf. Erbyn 1868 daeth yr holl fasnach uwchben Lewes i ben, er bod cychod yn dal i ddod i fyny'r afon cyn belled â Lewes mor ddiweddar â'r 1950au.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "History of the Sussex Ouse Navigation" Archifwyd 2020-06-12 yn y Peiriant Wayback., Gwefan The Sussex Ouse Restoration Trust; adalwyd 12 Mehefin 2020