Afon Swrinam

afon yn Swrinam

Afon fawr 480 km o hyd sy'n llifo trwy Swrinam yn Ne America yw Afon Swrinam. Gorwedd ei tharddleoedd yn Ucheldiroedd Guiana ar y ffin rhwng Mynyddoedd Wilhelmina a Mynyddoedd Eilerts de Haan (lle mae'n cael ei galw y Gran Rio). Llufa'r afon trwy Brokopondo, Berg en Dal, Klaaskreek a Nieuw-Lombé, Jodensavanne, Carolina, Ornamibo a Domburg, cyn cyrraedd y brifddinas Paramaribo a thref Meerzorg. yn Nieuw-Amsterdam mae Afon Commewijne yn ymuno ac yn fuan ar ôl hynny mae'n llifo i'r Cefnfor Iwerydd.

Afon Swrinam
Afon Swrinam yn Leonsberg, Paramaribo
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwrinam Edit this on Wikidata
GwladSwrinam Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau5.8181°N 55.1591°W, 5.92505°N 55.170994°W Edit this on Wikidata
AberCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
LlednentyddParakreek, Afon Commewijne Edit this on Wikidata
Hyd480 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad440 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddBrokopondo Reservoir Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yn ddyfrffordd bwysig sy'n galluogi llongau i allforio mwynau fel alwminiwm a hefyd dod â mewnforion i mewn i'r wlad.