Afon ym Mhowys sy'n llifo i mewn i afon Wysg yw Afon Tarell.

Afon Tarell
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9496°N 3.4°W Edit this on Wikidata
AberAfon Wysg Edit this on Wikidata
Map
Afon Tarell

Mae'r afon yn tarddu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda nifer o nentydd yn tarddu ar lechweddau'r Fforest Fawr. Llifa tua'r gogledd ac yna tua'r gogledd-ddwyrain am 14 km (9 milltit) ar hyd Glyn Tarell, gan lifo'n gyfochrog a'r briffordd A470 a mynd trwy bentrefi Libanus a Tai'r Bull. Wedi mynd heibio Tai'r Bull, mae Nant Cwm Llwch yn ymuno â hi. Mae'r afon yma yn tarddu yn Llyn Cwm Llwch islaw Pen y Fan.

Llifa Afon Tarell i mewn i Afon Wysg yn Llanfaes, ar oche dde-orllewinol Aberhonddu. Gydag afon Wysg, mae'r afon yn Ardal Gadwraeth Arbennig.