Afon yn yr Iseldiroedd ac un o ganghennau Afon Rhein yw Afon Waal. Y Waal yw'r gangen fwyaf o'r Rhein, sy'n ymrannu ger pentref Pannerden i greu Camlas Pannerden a'r Waal. Ger Westervoort mae Camlas Pannerden yn ymrannu i'r IJssel a'r Nederrijn.

Afon Waal
Mathafon, allsianel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGrote rivieren Edit this on Wikidata
SirNoord-Brabant, Zuid-Holland, Gelderland Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Cyfesurynnau51.8917°N 5.5207°E, 51.8167°N 5.05°E Edit this on Wikidata
TarddiadAfon Rhein Edit this on Wikidata
AberBoven Merwede Edit this on Wikidata
LlednentyddLinge, Camlas Amsterdam–Rhine, Waalhaven Edit this on Wikidata
Hyd82 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad1,500 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Afon Waal

Arferai'r Waal ymuno ag Afon Maas ger Woudrichem, ond mae ei chwrs yn awr wedi ei newid i gadw'r ddwy afon ar wahan yma, ac mae dŵr y Waal yn cyrraedd y môr ar hyd nifer o afonydd, y Noord, y Nieuwe Maas a'r Nieuwe Waterweg. Cysylltir y Waal ag Amsterdam a'r Nederrijn gan Gamlas Amsterdam-Rhein a chyda'r Maas gan Gamlas Maas-Waal ger Nijmegen a Chamlas Sint Andries.