Y maw Afon Wouri (hefyd Vouri neu Vuri) yn afon yn ne Camerŵn.

Afon Wouri
Mathafon, cwrs dŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLittoral Edit this on Wikidata
GwladBaner Camerŵn Camerŵn
Cyfesurynnau4.0833°N 9.7°E, 4.0833°N 9.7°E, 4.00414°N 9.62138°E Edit this on Wikidata
AberBight of Biafra Edit this on Wikidata
LlednentyddAbo Edit this on Wikidata
Dalgylch11,700 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd160 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ei chwrs golygu

Ffurfir yr afon yn aber afonydd Ykam ac Afon Makombé, 32 km (20 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Yabassi. Mae Afon Wouri yn llifo wedyn am 160 km (100 milltir) i gyfeiriad y de-ddwyrain i aberu yn y Cefnfor Iwerydd yn ninas Douala, ar Gwlff Gini. Gellir mordeithio 64 km (40 milltir) i fyny'r afon o Ddouala.

Fforwyr Portiwgalaidd golygu

Y fforiwr Portiwgalaidd Fernão do Pó (neu Fernando Póo), oedd yr Ewropeiad cyntaf i chwilio'r afon, tua'r flwyddyn 1472. Oherwydd i'r mordeithwyr ddarganfod nifer helaeth o Corgimachiaid ynddi, enwyd yr afon yn Rio dos Camarões (Portiwgaleg am "Afon Corgimachiaid") ganddynt. Dyma'r enw a roddes yr enw Camerŵn ar y wlad ei hun.

Pont Bonabéri golygu

Mae Pont Bonabéri, a godwyd gan y Ffrancwyr yn y 1950au, yn cysylltu Douala â thref Bonabéri ar y lan arall. Dyma'r bont bwysicaf yn y wlad sy'n cludo cynnyrch amrywiol o'r de i'r canolbarth.

 
Pont Bonabéri

Dolen allanol golygu