Afon Wrwgwái

afon yn Wrwgwái

Mae Afon Wrwgwái (Sbaeneg: Río Uruguay, Portiwgaleg: Rio Uruguai) yn afon yn Ne America. Mae'n llifo o'r gogledd i'r de ac yn ffurfio'r ffin rhwng Brasil, Ariannin ac Wrwgwái, gan wahanu rhai o daleithiau'r Mesopotamia Archentaidd oddi ar y ddwy wlad arall. Rhed rhwng taleithiau Santa Catarina a Rio Grande do Sul ym Mrasil; yn ffurfio ffin ddwyreiniol taleithiau Misiones, Corrientes ac Entre Ríos yn yr Ariannin; ac yn nodi ffiniau gorllewinol dosbarthau Artigas, Salto, Paysandú, Río Negro, Soriano a Colonia yn Wrwgwái.

Afon Wrwgwái
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRio Grande do Sul Edit this on Wikidata
GwladWrwgwái, Brasil, yr Ariannin Edit this on Wikidata
Uwch y môr200 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.6083°S 51.4558°W, 33.9458°S 58.4094°W, 29.7263°S 57.08015°W Edit this on Wikidata
TarddiadAfon Pelotas, Afon Canoas Edit this on Wikidata
AberRío de la Plata Edit this on Wikidata
LlednentyddRio Negro, Q703038, Arroyo Boycuá, Arroyo Chapicuy Grande, Q703215, Q703226, Q703276, Q703309, Q703319, Arroyo Román Grande, Arroyo Yacuy, Arroyo de la Agraciada, Q703829, Afon San Salvador, Afon Quaraí, Afon Arapey Grande, Afon Pelotas, Afon Lajeado Macuco, Afon Ibicuí, Afon Mocoretá, Afon Da Várzea, Afon Canoas, Afon Barra Grande, Afon Chalana, Afon Chapecó, Afon Comandaí, Afon Guarita, Afon Ijuí, Afon Iracema, Afon Irani, Q3432494, Afon Macaco Branco, Afon Passo Fundo, Afon Pepiri-Guazu, Afon Rancho Grande, Afon Santa Cruz, Afon Santa Rosa, Afon Santo Cristo, Taquari River, Afon Toropi, Afon Turvo, Afon Do Peixe, Afon Gualeguaychú, Afon Miriñay, Afon Aguapey, Afon Das Antas, Q5651670, Q5705587, Q5705591, Q5705594, Q5705598, Q5705632, Q5705652, Q5705707, Q5705721, Arroyo Mandisoví Grande, Q5705748, Q5705793, Q5705806, Q5705844, Q5705850, Arroyo San Francisco Grande, Q5705962, Q5705974, Arroyo Urquiza, Q5706034, Yatay creak, Q5706044, Q5706060, Q5706253, Q5706277, Q6115213, Q10362341, Afon São Domingos, Afon Icamaquã, Q16627319, Afon Daymán, Afon Queguay Grande Edit this on Wikidata
Dalgylch365,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd1,790 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad4.622 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Hyd yr afon yw tua 1,500 km. Mae'n tarddu yn y Serra do Mar (Brasil), lle daw afonydd Canoas a Pelotas i mewn, 2,050 m uwch lefel y môr. Yma mae'r afon yn llifo trwy dir anwastad ac yn ffurfio nifer o raedrau.

Gydag afon Paraná, mae afon Wrwgwái yn ffurfio aber Río de la Plata. Gellir ei hwylio o Salto Chico ymlaen. Daw y Río Negro, sy'n tarddu yn ne Brasil ac yn rhedeg trwy Wrwgwái am 500 km, i ymuno ag afon Wrwgwái 100 km i'r gogledd o gymer afon Wrwgwái a'r Río de la Plata, yn Punta Gorda (Dosbarth Colonia, Wrwgwái).

Croesir yr afon gan Pont Ryngwladol Paso de los Libres-Uruguaiana, rhwng Ariannin a Brasil. Mae tair pont ryngwladol eraill yn ei croesi yn ogystal, rhwng yr Ariannin ac Wrwgwái, sef Pont Salto Grande, Pont y Cadfridog Artigas a Pont Libertador General San Martín.

Mae gan fasn afon Wrwgwái arwynebedd o 370,000 km². Ei phrif defnydd economaidd yw ar gyfer cynhyrchu trydan hydroelectrig (gweler Argae Salto Grande).

Yr enw golygu

Daw enw'r afon o gamddealtwriaeth yr ymsefydlwyr Sbaenaidd o'r enw brodorol. Mae'r enw gwreiddiol, Urugua'ý, yn yr iaith Guaraní, yn golygu "afon yr adar paentiedig".

 
Rhaeadrau Moconá, ar afon Wrwgwái rhwng yr Ariannin a Brasil