Agnes Mason

sylfaenydd gymuned y Teulu Sanctaidd

Roedd Agnes Mason (10 Awst 1849 - 19 Rhagfyr 1941), yn lleian o dras Seisnig a anwyd yng Nghymru. Roedd yn nodedig fel sylfaenydd yr urdd grefyddol Anglicanaidd, Cymuned y Teulu Sanctaidd.[1]

Agnes Mason
Ganwyd10 Awst 1849 Edit this on Wikidata
Treflan Lacharn Edit this on Wikidata
Bu farw19 Rhagfyr 1941 Edit this on Wikidata
Holmhurst St Mary's School Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethlleian Edit this on Wikidata
TadGeorge William Mason Edit this on Wikidata

Teulu ac addysg golygu

Ganwyd Mason yn nhŷ ei thad-cu Joseph George Mitford, sef y Persondy, Talacharn, Sir Gaerfyrddin ym 1849. Roedd hi'n ferch i George William Mason o Morton Hall yn Swydd Nottingham a Marianne Atherton (née Mitford). O oedran ifanc iawn roedd saith plentyn Gorge a Marianne Mason wedi eu trwytho yng ngwaith elusennol a dyngarol Eglwys Loegr. Mewn cyfweliad ag un o gylchgronau Llundain The Queen mae chwaer Agnes, Harriet, yn dweud ""Does gen i ddim cof o gwbl o fy ymweliad cyntaf â thloty, na'r amser pan ddechreuais i ymddiddori yn y tlawd am y tro cyntaf".[2] Roedd Harriet yn arolygydd Cyfraith y Tlodion ac yn ddarlunydd botanegol.[3] Roedd ei brawd hynaf William Henry Mason yn aelod amlwg ac yn ddarlithydd dros Sefydliad Amddiffyn yr Eglwys.[4] Roedd brawd arall, Arthur James Mason, yn Athro Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt[5] ac roedd ei chwaer Harriet yn arolygydd Cyfraith y Tlodion ac yn ddarlunydd botanegol. Roedd brawd arall, George Edward Mason, yn offeiriad amlwg yn Eglwys Loegr[6] ac yn ddiweddarach yn brifathro coleg diwinyddol yn y Transkei (Coleg y Trawsnewidiad yn Ne Affrica bellach). Un o swyddi cyntaf y Parch Edward Mason oedd gwasanaethu fel rheithor plwyf Whitwell, Swydd Derby. Rhwng 1876 and 1883 bu Agnes yn cynorthwyo ei brawd gyda gwaith cymdeithasol ac addysgol y plwyf.

Ym 1883 aeth i Goleg Newnham, Caergrawnt, gan raddio yn y gwyddorau moesol gydag anrhydedd ail ddosbarth ym 1886.

Gyrfa golygu

Rhwng 1886 a 1888) bu’n darlithio mewn gwyddoniaeth feddyliol a moesol yng Ngholeg Bedford, Llundain, ac yna bu’n dysgu’n breifat yn Llundain tan 1892. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd i Urdd yr Ystwyll, a sefydlwyd gan y Canon Francis Holland ar gyfer dysgeidiaeth grefyddol, o 1887 hyd 1895 pan ymddiswyddodd er mwyn sefydlu Cymuned y Teulu Sanctaidd. Dechreuodd y Gymuned Anglicanaidd gyda chymorth sawl cefnogwr. Ei chefnogwyr oedd Charles Gore, Esgob Rhydychen; Walter Frere, Esgob Truro; William Collins, Esgob Gibraltar; George Congreve o Gymdeithas Sant Ioan yr Efengylwr; Charles Lindley Wood, 2il Is-iarll Halifax, llywydd Undeb Eglwys Loegr; a'r diwinydd Catholig Rhufeinig Baron von Hügel.

Roedd Frederick Temple, Archesgob Caergaint, yn un arall o’i chefnogwyr a defnyddiodd ei awdurdod i’w sefydlu yn Uchel Fam y grŵp newydd hwn. Arhosodd y gymuned yn fach ond sefydlodd leoliadau addysgu yn Llundain, St Leonards-on-Sea, Leeds, a Chaergrawnt, ac yn India yng Ngholeg yr Holl Saint, Nainital.

Ym 1913 sefydlodd yr urdd ei phencadlys, neu ei fam-dy, yn Holmhurst St Mary, St Leonards. Roedd hwn yn dŷ a oedd unwaith yn eiddo i Augustus Hare ac roedd wedi'i ymestyn gan ddefnyddio'r elw o'i ysgrifennu. [7]

Bu farw Mason yn Holmhurst St Mary ar 19 Rhagfyr 1941 a chladdwyd ei gweddillion yn y fynwent gysylltiedig â'i urdd.

Gweithiau golygu

Ym 1909 cyhoeddodd Mason Saint Theresa : The History of Her Foundations, yr oedd wedi'i gyfieithu. [8]


Cyfeiriadau golygu

  1. "Mason, (Frances) Agnes (1849–1941), founder of the Community of the Holy Family". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/58485. Cyrchwyd 2021-05-16.
  2. "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1890-04-25. Cyrchwyd 2021-05-16.
  3. "Mason, (Marianne) Harriet (1845-1932), poor-law inspector". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/48847. Cyrchwyd 2021-05-16.
  4. "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1889-11-29. Cyrchwyd 2021-05-16.
  5. "Mason, Arthur James (1851-1928), Church of England clergyman and theologian". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/34917. Cyrchwyd 2021-05-16.
  6. "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1889-12-20. Cyrchwyd 2021-05-16.
  7. Augustus Hare and Holmhurst, Umilta.net adalwyd 16 Mai 2021
  8. Agnes Mason; E. M. Satow (24 Tachwedd 2011). Saint Theresa: The History of Her Foundations. Gwasg Prifysgol Caergrawnt. ISBN 978-1-107-65545-4.