Roedd Agnes Pochin (née Heap), (25 Tachwedd 182512 Chwefror 1908)yn ymgyrchydd dros hawliau menywod.[1]

Agnes Pochin
Ganwyd1825 Edit this on Wikidata
Timperley Edit this on Wikidata
Bu farw1908 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethswffragét Edit this on Wikidata
Swyddymgyrchydd dros hawliau merched Edit this on Wikidata
TadGeorge Gretton Heap Edit this on Wikidata
PriodHenry Davis Pochin Edit this on Wikidata
PlantLaura Elizabeth McLaren Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Agnes yn Ryefield, Timperley, Swydd Gaer, yn ferch i George Gretton Heap, gwneuthurwr, a'i wraig, Hannah, (née Lord).

Does dim cofnod iddi dderbyn unrhyw addysg ffurfiol, ond mae ei gwaith yn dangos nad oedd hi’n brin o alluoedd meddyliol.

Ym 1852 priododd Henry Davis Pochin (1824-1895) cemegydd diwydiannol llwyddiannus o Fanceinion, daeth yn ddiweddarach yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol. Bu iddynt lawer o blant, ond bu y rhan fwyaf ohonynt farw yn eu babandod. Goroesodd tri ohonynt i oedolaeth Sef Walter (1853-1867), Laura Elizabeth (1854-1933) (yn ddiweddarach, Barwnes Aberconwy), a Percival Gerald (1862-1918).

Dywedir ei bod yn ddynes fechan o gorffolaeth ond mawr o benderfyniad a chymeriad.

Ymgyrchydd dros hawliau merched golygu

Ym 1855 ysgrifennodd, o dan y ffug enw Justitia, pamffled yn dwyn y teitl The Right of Women to Exercise the Elective Franchise. Dyma un o'r cyhoeddiadau cynharaf i ddadlau hawl merched i bleidleisio i ymddangos yn y 19g. Cafodd y pamffled ei ail gyhoeddi ym 1873 o dan enw Agnes Pochin. Yn y pamffled mae Agnes yn dadlau gydag egni a ffraethineb:

  • Dylai menywod gael yr hawl i’r etholfraint seneddol ar yr un amodau â dynion
  • Ni ddylai rhyw gael ei ystyried yn rhwystr i’r gydnabyddiaeth o dalent
  • Dylai menywod gael yr un hawliau i ysgariad a dynion
  • Ni ddylai priodas o reidrwydd rhoi terfyn ar yrfa merch[2]
  • Dylid rhoi addysg i ferched i’w hyfforddi ar gyfer gyrfa.

Pan gyflwynodd John Bright ei Mesur Diwygio i’r Senedd ym 1858 (a arweiniodd yn y pendraw i Ddeddf Diwygio 1867) bu Agnes Pochin yn ceisio, yn aflwyddiannus, i’w berswadio i gynnwys cymal ar bleidlais i ferched[3].

Er i Ddeddf Diwygio’r Senedd 1867 gwrthod rhoi’r bleidlais i ferched bu Pochin yn parhau a’i hymgyrch. Ym mis Ebrill 1868 bu yn areithio o lwyfan y Free Trade Hall ym Manceinion yn ystod y cyfarfod cyhoeddus cyntaf i ymgyrchu am bleidlais i ferched[4]. Ei gwr, a oedd yn faer Salford ar y pryd, bu’n cadeirio'r cyfarfod.

Roedd Pochin yn aelod cynnar o Gymdeithas Swffrag Merched Manceinion, ac ym 1872 daeth yn aelod o bwyllgor gwaith pwyllgor canolog y Gymdeithas Genedlaethol Dros Swffrag i Ferched a oedd newydd ei ffurfio. Roedd hi a'i gŵr yn aelodau o’r adain radical y Blaid Ryddfrydol, ac mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gan y pwyllgor canolog ym mis Gorffennaf 1872 bu’n cwyno bod y frwydr dros y bleidlais yn rhy dosbarth canol a bod angen apelio i'r dosbarthiad gweithiol er budd bleidlais i ferched.

Yn y 1850au cynnar sefydlodd ei gŵr the Salford Working Men's College ac erbyn 1860 bu Mrs Pochin yn rhoi ei egwyddor o addysg gyfartal ar waith trwy gynnal dosbarthiadau i ferched yn y coleg.

Marwolaeth golygu

 
The Poem, claddgell Bodnant

Ym 1874 prynodd Henry Davis Pochin ystâd Bodnant a bu Agnes yn byw yno hyd ei farwolaeth ar 12 Chwefror 1908. Rhoddwyd ei gweddillion i orffwys yng nghladdgell y stad The Poem.

Cyfeiriadau golygu